Ashley Williams yn dioddef gwasgfa ar ei ysgyfaint
- Cyhoeddwyd

Dyna oedd gêm gyntaf amddiffynnwr Everton ers tri mis.
Mae capten tîm pêl-droed Cymru, Ashley Williams wedi cyhoeddi ei fod wedi dioddef gwasgfa ar ei ysgyfaint yn ystod y gêm gyfeillgar yn erbyn Mecsico ddydd Mawrth.
Fe wnaeth Williams hefyd ddioddef "sawl toriad" i'w asennau ar ôl gwrthdaro yn erbyn Javier Hernandez wnaeth orfodi iddo adael y maes ar ôl 20 munud.
Dyna oedd gêm gyntaf amddiffynnwr Everton ers tri mis wrth i'r gêm orffen yn ddi-sgor yn y Rose Bowl yn .
'Gwallgof'
Dywedodd Williams ar Facebook:"Dwi'n edrych ymlaen at gael hedfan adref nawr i orffwys cyn y tymor newydd.
"Mae'r wythnosau diwethaf wedi bod yn wallgof, Roedd hi'n wych cael bod nôl yn gwisgo crys coch Cymru gyda'r bechgyn.
"Ond ar ôl dod i ffwrdd ar ôl 20 munud gyda sawl toriad i fy asennau. Yn yr ysbyty fe wnaethon nhw ddarganfod fy mod wedi cael gwagfa i fy ysgyfaint chwith," meddai.
Gwyliwch yr uchafbwyntiau: Mecsico 0-0 Cymru
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mai 2018
- Cyhoeddwyd29 Mai 2018