'Cyfres o fethiannau' cyn marwolaeth claf yng Nghwm Taf

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty'r Tywysog CharlesFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Mr Y yn Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful ym mis Ebrill 2015

Bu farw claf o'r de wedi i feddygon fethu â dod o hyd i glwyf yn ei goluddyn, a arweiniodd yn ddiweddarach at wenwyn gwaed, medd adroddiad.

Fe aeth chwaer y claf 55 oed at yr Ombwdson Gwasanaethau Cyhoeddus i gwyno wedi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf fethu ag ymateb i'w phryderon am y gofal gafodd ei brawd yn Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful.

Dywedodd yr ombwdsmon, Nick Bennett, fod yna fethiannau difrifol yn yr achos.

Mae'r bwrdd iechyd wedi derbyn holl argymhellion yr adroddiad.

Poenau

Cafodd y claf, Mr Y - fel y cyfeirir ato yn yr adroddiad - ei gludo i'r ysbyty ym mis Ebrill 2015 oherwydd poenau yn ei fol.

Cafodd ei anfon adref, ond fe aeth yn ôl i'r ysbyty o fewn dyddiau wedi iddo gael ei ganfod mewn cyflwr dryslyd, ac yn dioddef o hypothermia.

Ymysg y methiannau y rhestrodd yr Ombwdsmon yn ei adroddiad oedd methiant meddygon i adnabod symptomau sepsis a'u trin yn gynt, methiannau i sywleddoli fod cyflwr colitis Mr Y wedi gwaethygu, ac oedi cyn addasu ei feddyginiaeth.

Wrth wneud sylw ar yr adroddiad, dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: "Mae fy ymchwiliad wedi tanlinellu cyfres o fethiannau difrifol yng ngofal a thriniaeth Mr Y, a'r tristwch yw na fyddwn ni fyth yn gwybod a fyddai'r canlyniad wedi bod yn wahanol petai wedi cael ei drin yn gywir a chael llawdriniaeth yn gynt."

Nick Bennett
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Ombwdsmon Nick Bennett fod yna fethiannau difrifol yng ngofal Mr Y

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio fod casgliadau'r adroddiad yn dod a rhywfaint o gysur i chwaer Mr Y, Ms X.

Aeth Mr Bennett ymlaen ei ddweud ei fod yn achos pryder nad oedd Bwrdd Iechyd Cwm Taf wedi adnabod y methiannau'n gynt, pan aeth Ms X atyn nhw i gwyno'n wreiddiol: "Dim ond ar ôl i fy ymchwiliad i ddechrau yr aeth llawfeddyg ymgynghorol ati i edrych ar y nodiadau meddygol.

"Cafodd yr arfer o ddiffyg delio â chwynion ei danlinellu yn fy adroddiad thematig diweddar, Rhoi Diwedd ar yr Un Hen Gan Beunyddiol, ac mae ond yn ychwanegu at ofid y teulu wrth iddyn nhw alaru."

Mae'r bwrdd iechyd wedi cytuno i holl argymhellion yr Ombwdsmon, gan gynnwys talu £4,500 i Ms X am y methiannau a'r anghyfiawnder iddi hi a'i brawd.