Morgan: 'Dim ehangu'r Safonau Iaith i sectorau eraill'
- Cyhoeddwyd
Mae Gweinidog y Gymraeg wedi dweud na fydd Llywodraeth Cymru'n gorfodi rhagor o sectorau i fabwysiadu'r Safonau Iaith am y tro.
Mewn datganiad yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Eluned Morgan y byddai'r llywodraeth hefyd yn "ail-gyfeirio adnoddau" oedd yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd i gyflwyno a phlismona'r safonau.
Yn hytrach, dywedodd mai'r bwriad o hyn ymlaen yw canolbwyntio ar "gynyddu'r nifer o bobl sy'n siarad ac yn defnyddio'r Gymraeg".
Ond mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu'r cyhoeddiad, gan ddweud bod "gwrthod ymestyn safonau i'r sector breifat yn mynd yn gwbl groes i farn pobl Cymru ac Aelodau Cynulliad".
Mae'r Safonau Iaith yn rheolau sy'n gorfodi sefydliadau i ddarparu rhai gwasanaethau cyhoeddus trwy gyfrwng y Gymraeg.
'Moron yn hytrach na ffon'
Wrth siarad yn y Siambr, dywedodd Ms Morgan ei bod wedi sylweddoli ers dod yn Weinidog y Gymraeg y llynedd bod y "broses o wneud a gosod y safonau yn llafurus, costus a chymhleth".
Ychwanegodd bod angen i fesur newydd y llywodraeth "newid cyfeiriad pendant" er mwyn cyrraedd eu nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
"Er mwyn llwyddo, bydd rhaid i ni fod yn glir ynglŷn â sut i wario ein hadnoddau ac amser yn well," meddai.
Mynnodd y gweinidog nad oedd hynny'n golygu y byddai Llywodraeth Cymru'n "rhoi'r gorau i orfodi'r safonau".
"Rhaid i gyrff gyflawni eu dyletswyddau statudol," meddai.
"Ond rwyf o'r farn ei bod hi bob amser yn well i ddefnyddio moron yn hytrach na ffon lle bo hynny'n bosib."
Cadarnhaodd bod y llywodraeth yn bwriadu sefydlu Comisiwn y Gymraeg, fyddai'n cymryd dyletswyddau'r Comisiynydd Iaith presennol.
Fe fyddai'r comisiwn hwnnw'n gyfrifol am orfodi'r safonau yn ogystal â chanolbwyntio ar y nod o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.
"Os mai ein nod yw cyrraedd miliwn o siaradwyr, mae'n amlwg y bydd rhaid i'r Comisiwn newydd wario rhan helaeth o'i hamser yn dwyn perswâd ar fwy o bobl i ddysgu Cymraeg, i ddefnyddio'r Gymraeg ac i ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i'w plant," meddai.
"Does dim gobaith gennym i gyrraedd y targed oni bai ein bod ni'n darbwyllo rhai o'r 80% o'r boblogaeth sydd ddim yn medru'r Gymraeg i ymuno yn y daith bwysig yma."
'Llusgo ni 'nôl i 1993'
Wrth ymateb i gyhoeddiad y gweinidog dywedodd AC Plaid Cymru, Sian Gwenllian ei bod yn "anghytuno efo'r cyfeiriad sy'n cael ei awgrymu" gan y llywodraeth.
"O ystyried llwyddiant y safonau iaith hyd yma, mae rhaid holi pam fod y gweinidog yn cefnogi ymgais i wanio, i lastwreiddio, ac i wadu hawliau pobl Cymru i'r Gymraeg - sef byrdwn y datganiad heddiw," meddai.
"Mae'r cynnig yn bygwth ein llusgo ni 'nôl i Gymru 1993 y Ceidwadwyr yn hytrach na Chymru hyderus 2050 â miliwn o siaradwyr."
Ychwanegodd fod y blaid yn "croesawu" rhywfaint o gyhoeddiad y llywodraeth, gan gynnwys arian tuag at Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar, ond nad oedd yn "strategaeth uchelgeisiol".
Ar y llaw arall dywedodd AC UKIP, Neil Hamilton fod "cytundeb eang ar y cyfeiriad y mae'r gweinidog yn mynd".
Cytunodd yr AC Ceidwadol, Suzy Davies fod gweithredu'r safonau ar hyn o bryd yn "gostus a biwrocrataidd", ond nad oedd hi wedi'i pherswadio bod angen creu'r comisiwn newydd.
"Yn y bôn, beth yw'r gwahaniaeth rhwng eich Comisiwn a'r Comisiynydd?" gofynnodd.
Fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith gyhuddo Llywodraeth Cymru o fynd yn groes i ddymuniadau'r cyhoedd wrth ddiddymu Comisiynydd y Gymraeg, a pheidio ehangu'r safonau.
"Mae'n gam mawr nôl ei bod hi'n sôn am 'ddarbwyllo' busnesau mawrion pan fo pob arbenigwr yn gwybod mai rheoleiddio yw'r ateb," meddai cadeirydd y mudiad, Heledd Gwyndaf.
"Mae'n frawychus bod Llafur am droi'r cloc yn ôl i Ddeddf Iaith wan y Torïaid drwy atgyfodi cwango tebyg i Fwrdd yr Iaith a gwanhau ein hawliau i gwyno a chael cyfiawnder.
"Dyw pobl Cymru ddim eisiau hawliau iaith gwannach, maen nhw am symud ymlaen, nid camu'n ôl i hen ddeddfwriaeth wnaeth fethu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2017