'Sialens' i weithredu safonau iaith addysg bellach

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Meri Huws yn cydnabod bod y safonau iaith yn mynd i fod yn "sialens" i'r prifysgolion a cholegau addysg bellach

Wrth i safonau iaith gael eu gosod ar brifysgolion a cholegau addysg bellach, mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dweud y bydd yn "sialens" i sefydliadau eu gweithredu.

Eisoes mae dros 100 o sefydliadau cyhoeddus fel cynghorau sir a heddluoedd yn gweithredu'r safonau.

Maen nhw'n sicrhau bod gan fyfyrwyr yng Nghymru hawliau cyfreithiol i ddefnyddio'r Gymraeg - y genhedlaeth gyntaf erioed.

Mae'r union hawliau yn amrywio o sefydliad i sefydliad ond mae llawer ohonyn nhw'r un peth ledled Cymru.

'Sialens'

Yn ôl Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: "Beth welwn ni'n digwydd, rhywbeth tebyg i'r hyn sydd wedi digwydd mewn sectorau eraill.

"Mae hyn yn sefydlu hawliau i ddefnyddwyr gwasanaethau o fewn y sefydliadau yna.

"Felly wrth bod y safonau'n dod yn weithredol i brifysgolion a cholegau addysg bellach, fe fydd myfyrwyr yn cael hawliau penodol, ac wrth gwrs mi fydd y bobl hynny sy'n gweithio o fewn y sector yna hefyd yn cael hawliau o ran y ffordd y maen nhw'n ymwneud â'r sefydliad."

Ymhlith y safonau i fyfyrwyr mae:

  • Tiwtor personol sy'n siarad Cymraeg;

  • Gwasanaeth cwnsela'n Gymraeg;

  • Gohebiaeth fel llythyrau a ffurflenni yn Gymraeg;

  • Prosbectws Cymraeg;

  • Mynediad i gyfarfodydd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ychwanegodd Ms Huws: "Dwi'n sicr hefyd y bydd y cyhoedd yn gweld gwahaniaeth wrth bo' nhw falle'n ymweld â choleg neu brifysgol, bod 'na Gymraeg i'w weld o ran arwyddion, derbynfeydd ac unrhyw ohebiaeth maen nhw'n ei gael wrth y sefydliadau.

"Mae'n mynd i fod yn sialens a does neb yn bychanu'r sialens i'r sefydliadau addysg bellach yna."

Ychwanegodd y bydd prifysgolion a cholegau addysg bellach yn "dechrau mewn man gwahanol" ond y bydd disgwyliad cyfreithiol arnyn nhw i osod y safonau iaith.

Disgrifiad,

Yn ôl Daniel Tiplady o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, mae'r brifysgol yn parchu hawliau myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg

Un o'r colegau sydd wedi bod yn paratoi am y newid ers dwy flynedd yw Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Yn ôl pennaeth yr Uned Gymraeg yno, Daniel Tiplady, mae'r brifysgol yn croesawu'r safonau.

"Yn hytrach na gweld e fel rhywbeth sy'n mynd i fod yn negyddol neu'n gostus i'r brifysgol, ni wedi bod yn edrych ar y budd mae'r safonau'n mynd i roi i ni.

"Mae'n falle mwy heriol mewn rhai meysydd na'i gilydd ond eto ma' nifer ohonyn nhw'n bethe ddyle sefydliadau addysg fod yn 'neud yn barod.

"Hefyd ma' sefydliadau addysgol yn mynd mwy tuag at - 'myfyrwyr yw'n cwsmeriaid ni, ma' myfyrwyr yn ganolog i bopeth da ni'n neud' - felly os ydych chi'n cynnig gwasanaeth da i'r myfyrwyr, dyle'r pethe yma fod ar gael."

Disgrifiad o’r llun,

Croesawu'r safonau iaith mae Emily Bruce, sy'n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd

Yn ol un myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd mae'n "grêt bod gan bobl mwy o gyfle i neud stwff drwy gyfrwng y Gymraeg".

Dywedodd Emily Bruce: "Lawr yn yr Ysgol Fusnes does dim lot o Gymraeg o gwbl a do'n ni ddim yn gwybod llynedd, pam o'n i'n sefyll arholiadau bo'n rhaid i fi adael i'r brifysgol wybod bo' fi moyn sefyll nhw drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Felly o'n ni ddim yn cael llynedd."

Angen 'safiad cyfreithiol'

Mynnu bod angen hawliau cyfreithiol ar fyfyrwyr mae Swyddog y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, Jacob Morris.

"Mae'n neis i weld bod 'na rhyw fath o safiad cyfreithiol yn cael ei wneud sy'n amddiffyn ni fel siaradwyr Cymraeg.

"Ry'n ni'n teimlo weithiau bod ni mewn rhyw fath o frwydr barhaus ar gyfer hawliau Cymraeg, ac felly mae cael hwn wedi ei wreiddio a bod y comisiynydd yn medru gweithredu ar hyn yn llawer iawn o gysur i ni."

Disgrifiad o’r llun,

Galw ar y prifysgolion i hyrwyddo'r hawliau iaith mae Osian Morgan, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd

Mae Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd, Osian Morgan, yn obeithiol y bydd yr hawliau newydd yn amlygu'r iaith yn y brifddinas.

"Yn sicr yng Nghaerdydd, mewn dinas eitha' mawr, dyw'r Gymraeg ddim yn gallu bod yn amlwg iawn. Mae'n gallu bod yn eitha' hawdd i fyw yma heb weld y Gymraeg," dywedodd.

"Be' 'da ni wedi galw ar y brifysgol i 'neud yw hyrwyddo'r hawliau sydd gennan ni.

"Felly mewn darlith pan mae sesiwn yn cael ei gyflwyno, mi fyddwn yn disgwyl i'r darlithydd ddweud: A chofiwch bo gyda chi'r hawl i wneud hyn yn Gymraeg.

"Felly pethau bychain fel 'na, maen nhw'n adio i fyny ac wedyn mae'r Gymraeg yn dod yn rhan naturiol o fywyd yn y brifysgol."