Canfod ffynhonnell debygol pla o bryfed yn Llanelli
- Cyhoeddwyd
Mae arbenigwyr yn credu mai ffatri ailgylchu yw ffynhonnell mwyaf tebygol pla o bryfed sydd wedi poeni trigolion Llanelli ers tro.
Nos Lun fe ddaeth dros 150 o drigolion i gyfarfod cyhoeddus i drafod y broblem wedi i heidiau o bryfed fynd i gartrefi pobl ers bron i dair wythnos.
Mae BBC Cymru'n deall mai safle AMG Resources sy'n cael ei amau gan swyddogion amgylcheddol fel tarddiad y pla, ac mae'r cyngor wedi chwistrellu'r ardal.
Yn ogystal mae swyddogion iechyd amgylcheddol wedi rhoi cyngor i'r cwmni er mwyn osgoi digwyddiad tebyg.
Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi rhybuddio y gall y driniaeth gymryd ychydig ddyddiau cyn y bydd yn cael effaith.
Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, sydd â chyfrifoldeb am warchod y cyhoedd gyda'r awdurdod: "Ry'n ni'n hyderus ein bod ni wedi dod o hyd i ffynhonnell y broblem ar ôl ymchwilio'n drylwyr."
Ychwanegodd y cyngor mewn datganiad eu bod wedi dod â staff rheoli pla ychwanegol i mewn i "helpu i ddatrys y broblem".
Ychwanegodd Mr Hughes bod y pla wedi bod yn "amhleserus iawn i lawer o bobl", ond fe wnaeth annog trigolion i gadw bwyd mewn bocsys neu yn yr oergell, i lanhau ardaloedd paratoi bwyd ac i gadw ffenestri ar gau pan yn bosibl.
Dywedodd Paul Gibson o Gyfoeth Naturiol Cymru ei fod yn deall bod y digwyddiad wedi "achosi problemau sylweddol" i bobl leol, a bod datrys y broblem yn flaenoriaeth.
Ychwanegodd bod mesurau eisoes mewn grym i "reoli a lleihau'r pryfed", ac y byddai hynny'n parhau nes i'r broblem gael ei ddatrys.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2018