Canfod lluniau coll artist mewn plasty ym Mro Morgannwg

  • Cyhoeddwyd
The Tortured SoulFfynhonnell y llun, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhwyg ar draws llun The Tortured Soul - allai fod werth tua £19,000

Mae casgliad "pwysig tu hwnt" o luniau gan artist adnabyddus wedi cael eu canfod mewn plasty ym Mro Morgannwg.

Gafodd y paentiadau gan Margaret Lindsay Williams eu canfod yn Nhŷ Dyffryn ger pentref Sain Nicolas.

Roedd un o'r lluniau, The Imprisoned Soul, yn waith dadleuol oedd yn edrych ar farwolaeth yng nghyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae'r pedwar llun mewn "cyflwr gwael iawn", gyda thyllau a rhwygiadau ynddynt, a'r amcangyfrif yw bod angen tua £50,000 i'w hadfer.

'Dirywio'

Cafodd y lluniau eu canfod wrth i waith adnewyddu ddigwydd yn y plasty, sydd wedi bod dan reolaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ers 2013.

"Pan wnaethon ni ganfod y gweithiau doedd neb yn gwybod unrhyw beth amdanynt," meddai stiward y tŷ, Christina Hanley.

"Ond wedyn fe wnaeth cydweithiwr weld un ohonynt mewn llyfr am artistiaid Cymreig ac fe wnaethon nhw sylweddoli y gallen nhw fod yn arwyddocaol."

Ffynhonnell y llun, Geograph/Gareth James
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y plasty ei adeiladu gan y pendefig glo, John Cory

Bu Margaret Lindsay Williams fyw rhwng 1888 ac 1960, ac yn ystod ei gyrfa fel artist cafodd ei chomisiynu i baentio rhai o enwogion y cyfnod.

Roedd y rhain yn cynnwys y Prif Weinidog David Lloyd George, Arlywydd yr UDA Warren G Harding, pennaeth y cwmni ceir Henry Ford, y Brenin George V a'r Frenhines Elizabeth II.

Roedd Imprisoned Soul, gafodd ei baentio yn 1920, yn un o weithiau Williams oedd o natur grefyddol.

Yn ôl amcangyfrifon o luniau tebyg fe allai'r gwaith fod gwerth tua £19,000, ond mae mewn cyflwr gwael gyda'r paent arno'n "ansefydlog ac yn dirywio".

Mae'r paentiadau eraill wedi'u gwneud ar waliau'r adeilad sydd yn dangos golygfeydd fel dynes yn ymdrochi, ac angel yn ymestyn am y sêr.

"Mae'r paentiadau yma'n bwysig tu hwnt, a phob diwrnod maen nhw'n dirywio fesul ychydig," meddai Ms Hanley.

"Mae'n hanfodol ein bod ni'n eu hachub nhw nawr cyn iddi fynd yn rhy hwyr."