Gething yn galw am dreth i dalu am ofal cymdeithasol

  • Cyhoeddwyd
gofal

Mae un o'r ymgeiswyr posib i fod yn brif weinidog nesaf Cymru wedi dweud wrth BBC Cymru y byddai treth newydd i dalu am ofal cymdeithasol yn "gyfle hynod bwysig i Gymru".

Mae'r ardoll gofal cymdeithasol yn un o'r trethi newydd sy'n cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru pan fydd pwerau trethu'n cael eu datganoli.

Fe wnaeth Vaughan Gething ei sylwadau ar raglen Sunday Politics Wales wrth drafod ei weledigaeth ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol dros y ddegawd nesaf.

Mae gofal cymdeithasol yn cynnwys pethau fel rhoi cymorth i unigolion yn eu cartref gyda thasgau fel ymolchi a gwisgo, i ofal 24 awr mewn cartrefi gofal.

'Rhaid darbwyllo'r cyhoedd'

Dan gynlluniau newydd Llywodraeth Cymru mae disgwyl y bydd llai o bobl yn cael eu trin yn yr ysbyty, ac yn hytrach yn derbyn gwasanaethau yn agosach at adref.

Cyfaddefodd Mr Gething y byddai hynny'n golygu'r angen am ragor o arian tuag at ofal cymdeithasol, gyda llawer o'r arian presennol yn dod o gyllidebau awdurdodau lleol.

Dywedodd fod angen sgwrs ynglŷn â sut y byddai modd defnyddio grymoedd trethi i ariannu gofal cymdeithasol.

"Dwi'n meddwl ei fod yn hynod bwysig i Gymru a gweddill y DU hefyd," meddai'r Ysgrifennydd Iechyd.

"Achos os allwn ni wneud i hynny weithio a datrys rhai o broblemau effaith system les y DU hefyd, mae'n bosib y bydd gennym ni ffordd fydd nid yn unig yn darparu mwy o arian ond hefyd... yn dderbyniol i'r cyhoedd yn ehangach.

Disgrifiad o’r llun,

Vaughan Gething yw un o'r ACau Llafur sydd wedi datgan bwriad i sefyll am arweinyddiaeth y blaid

"Mae'n rhaid iddyn nhw gredu nad dim ond ffordd newydd o wneud arian yw hyn, ond ffordd newydd o ddarparu gwell gofal.

"Nid jyst mwy o'r un peth ond gwneud rhywbeth gwahanol a gwell er mwyn taclo'r angen maen nhw hefyd yn cydnabod sydd 'na ym mhob cymuned o ran faint o ofal cymdeithasol sydd ei angen arnom yn y dyfodol."

Llynedd fe wnaeth y Sefydliad Iechyd amcangyfrif y byddai'r pwysau ar wasanaethau gofal cymdeithasol Cymru'n cynyddu o tua 4.1% y flwyddyn dros y 15 mlynedd nesaf oherwydd newidiadau i'r boblogaeth, natur cyflyrau cymhleth a chronig, a chostau uwch.

Mae angen i Vaughan Gething ddenu cefnogaeth un Aelod Cynulliad arall er mwyn gallu rhoi ei enw yn yr het i olynu Carwyn Jones fel prif weinidog ac arweinydd Llafur Cymru.