Swyddi gweithwyr Poundworld yn y fantol ar draws Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae bygythiad i swyddi gweithwyr mewn 21 o siopau Poundworld ar draws Cymru ar ôl i'r cwmni fynd i ddwylo gweinyddwyr.
Daw'r cyhoeddiad wedi methiant trafodaethau gyda phrynwr posib dros y penwythnos.
Does dim cadarnhad faint yn union o bobl sy'n cael eu cyflogi yng Nghymru, ond mae gan y cwmni dros 5,000 o weithwyr drwy Brydain a chyfanswm o 355 o siopau.
Mae'r gweinyddwyr, Deloitte, yn ceisio dod o hyd i brynwr arall, ac yn pwysleisio na fydd unrhyw ddiswyddiadau na'r un siop yn cau ar hyn o bryd.
Dywedodd llefarydd ar ran y gweinyddwyr fod y busnes wedi dioddef yn sgil cynnydd uchel ym mhris cynnyrch, llai o gwsmeriaid ar y stryd fawr a chystadleuaeth ffyrnig ymhlith siopau nwyddau rhad.
Y farchnad yn 'heriol'
Ychwanegodd fod amodau'r farchnad yn dal yn "eithriadol o heriol" yn y DU gan ei gwneud hi'n amhosib i Poundworld ad-drefnu'r busnes.
"Rydym yn dal i gredu y gellir dod o hyd i brynwr ar gyfer y busnes neu o leiaf ran ohono, ac rydym yn gadael i staff wybod am ddatblygiadau fel ag y maen nhw'n digwydd," meddai'r llefarydd.
"Fe ddiolchwn i'r staff am eu cefnogaeth yn y cyfnod anodd yma."
Fel y mae enw'r cwmni'n ei awgrymu, £1 yw pris mwyafrif helaeth y nwyddau sy'n cael eu gwerthu yn ei siopau.
Mae'n masnachu dan frandiau Poundworld, Poundworld Plus neu Bargain Buys.
Daw'r newyddion ddyddiau wedi i House of Fraser gyhoeddi bwriad i gau 31 o'i siopau gan gynnwys dwy yng Nghymru.
Dyma'r rhestr lawn o'u siopau yng Nghymru:
Abertawe - tair siop ym Mharc Manwerthu Pontarddulais, Parc Tawe a Pharc Manwerthu Phoenix;
Bae Colwyn;
Bangor;
Bargoed;
Brychdyn;
Caerdydd - Canolfan Dewi Sant a Chanolfan Siopa Capitol;
Caerfyrddin;
Llanelli - dwy siop gan gynnwys un Bargain Buys;
Llantrisant;
Merthyr Tudful;
Dwy siop yng Nghasnewydd;
Queensferry;
Y Rhyl;
Dwy siop yn Wrecsam - gan gynnwys un Bargain Buys;
Y Coed Duon.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2018