Llywodraeth Cymru i dderbyn £1.2bn o arian ychwanegol
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £1.2 biliwn yn ychwanegol o ganlyniad i'r cynnydd ar wariant ar y gwasanaeth iechyd yn Lloegr.
Ddydd Sul cyhoeddodd Theresa May y byddai Llywodraeth y DU yn buddsoddi £20 biliwn yn ychwanegol yn y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr erbyn 2023/24.
Daeth y cyhoeddiad yn y flwyddyn mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed.
O ganlyniad i'r cyhoeddiad, fe fydd Cymru nawr yn derbyn £1.2bn drwy fformiwla Barnett.
Mae fformiwla Barnett yn penderfynu ar lefel gwariant cyhoeddus yng Nghymru, Gogledd Iwerddon, a'r Alban gan ddyrannu cyllid yn ôl maint y boblogaeth a'r pwerau a ddatganolwyd iddynt.
'Angen gwario ar y gwasanaeth iechyd'
Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu sut bydd yr arian ychwanegol yn cael ei wario yng Nghymru.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, ei fod yn annog Llywodraeth Cymru i wario'r arian ychwanegol ar y gwasanaeth iechyd.
"Wrth i'r GIG ddathlu ei 70, rwy'n erfyn yn gryf ar Lywodraeth Cymru i wario'r arian ychwanegol yn strategol er mwyn sicrhau gwell canlyniadau iechyd yng Nghymru," meddai.
"Fe allai'r arian yma gael ei ddefnyddio i wella perfformiad yn y meysydd lle mae Cymru ar ei hôl hi."
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n yn croesawu penderfyniad hwyr Llywodraeth y DU - penderfyniad ry'n wedi bod yn gofyn amdano ers tro.
"Er ein bod yn croesawu cyllid ychwanegol, rhaid peidio anghofio petai y gyllideb yng Nghymru wedi tyfu yn unol â chwyddiant rhwng 2010-11 a 2019-20, mi fyddai'r gyllideb £4bn yn uwch na'r hyn yw hi heddiw.
"Bydd y penderfyniadau ynglyn â sut fydd y cyllid ychwanegol yn cael ei wario yn cael eu gwneud gan gabinet Llywodraeth Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2017