ACau'n galw am dargedu arian grant addysg yn well

  • Cyhoeddwyd
addysgFfynhonnell y llun, GPOINTSTUDIO/GETTY IMAGE

Mae arian ar gyfer hybu perfformiad y disgyblion tlotaf yn cuddio'r pwysau ar gyllidebau ehangach ysgolion, medd Aelodau Cynulliad.

Mae £94m o bunnau'r flwyddyn yn cael ei wario ar y Grant Datblygu Disgyblion (GDD) ar gyfer plant sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim.

Yn ôl adroddiad gan Bwyllgor Addysg y Cynulliad, mae angen targedu'r cyllid yn well er mwyn sicrhau gwerth am arian.

Mae'r llywodraeth yn dweud bod lleihau'r agendor rhwng cyrhaeddiad plant o gefndiroedd difreintiedig a disgyblion eraill yn rhan ganolog o'r genhadaeth genedlaethol i godi safonau.

Defnydd effeithiol?

Mae ysgolion yn derbyn dros £1,000 o bunnau'r flwyddyn ar gyfer pob disgybl sy'n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim.

Tra'n gefnogol i egwyddor y grant, dywedodd y pwyllgor eu bod yn poeni mai ond dwy o bob tair ysgol sy'n defnyddio'r arian yn effeithiol.

Clywodd yr ymchwiliad bod effaith y cyllid yn cael ei wanhau oherwydd y pwysau ar gyllidebau craidd ysgolion.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cadeirydd pwyllgor addysg y Cynulliad Lynne Neagle AC yn galw am ddefnydd mwy effeithiol o'r arian

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor addysg, Lynne Neagle AC fod llawer o ddisgyblion o gefndiroedd difreintiedig, sy'n llwyddo'n academaidd, yn gwneud hynny "er gwaetha'u hamgylchiadau" ac y dylai fod mwy o bwyslais ar wthio'r rhai sy'n gwneud yn dda yn ogystal â chynorthwyo'r disgyblion sy'n ei chael hi'n anodd.

"Mae'r pwyllgor yn cefnogi defnyddio'r GDD i helpu lleihau'r bwlch rhwng disgyblion difreintiedig a'u cyfoedion", medd Ms Neagle, "ond rydym yn credu bod angen gwneud llawer mwy i sicrhau fod y nawdd yn helpu'r disgyblion mwy abl o gefndiroedd difreintiedig i gael y graddau uchaf."

Mae'r ffigyrau diweddara'n awgrymu fod y bwlch rhwng perfformiad TGAU plant sy'n cael cinio am ddim a'u cyfoedion wedi tyfu eto ar ôl lleihau yn y cyfnod blaenorol.

Yn 2017, cafodd 32.4% yn llai o ddisgyblion sydd a'r hawl i ginio am ddim 5 A* mewn pynciau TGAU gan gynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg, o'i gymharu â'u cyfoedion yn y dosbarth.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod hynny'n rhannol oherwydd newidiadau i ddata ar gymwysterau a pherfformiad ysgolion, ond mae'r pwyllgor yn dweud bod angen ystyried o ddifrif pam fod y bwlch wedi tyfu.

Grant yn 'amhrisiadwy'

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod adroddiad diweddar yn dangos fod ysgolion yn ystyried y grant yn "amhrisiadwy".

Ychwanegodd llefarydd: "Dyna pam rydym wedi canolbwyntio ein hymdrechion ar wneud y gorau o'r grant - boed hynny drwy ddyblu'r cymorth ariannol i blant blynyddoedd cynnar yn y cyfnod sylfaen, neu fel ry' ni wedi cyhoeddi'n ddiweddar, ymestyn y GDD i gynnwys cefnogaeth ariannol ar wisg ysgol, gwisg chwaraeon ac offer ar gyfer gweithgareddau ehangach fel y sgowtiaid a'r geidiaid a chwaraeon y tu allan i'r ysgol."