Undeb yn galw am adolygu cyllido ysgolion yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Plentyn yn codi ei fraich mewn ystafell ddosbarth
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r undeb yn gofyn am fformiwla sy'n berthnasol i bob disgybl yng Nghymru "beth bynnag eu côd post"

Mae undeb prifathrawon wedi dweud bod angen cynnal adolygiad i'r ffordd y mae ysgolion Cymru'n cael eu cyllido.

Ar benwythnos cynhadledd flynyddol yr NAHT yn Lerpwl, mae cynrychiolwyr yr undeb yng Nghymru yn dweud bod toriadau ariannol yn amharu ar safon yr addysg y mae'n bosib i ysgolion ei ddarparu.

Mae NAHT Cymru hefyd yn dweud bod angen digon o arian a gwell gydlynu er mwyn helpu ysgolion i ddarparu'r cymorth priodol i ddisgyblion sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "parhau i flaenoriaethu ariannu ysgolion".

'Tangyllido parhaus'

Yn ôl cyfarwyddwr polisi NAHT Cymru, Rob Williams, mae ysgolion yng Nghymru "yn cael eu tangyllido yn barhaus" a mae eu cyllidebau wedi cyrraedd "pwynt argyfyngus".

"Mae'n effeithio ar safon yr addysg y mae ysgolion yn gallu ei ddarparu i blant," meddai.

"Mae gofyn nawr am adolygiad cenedlaethol o gyllido ysgolion yng Nghymru i sicrhau bod yna ddigon o arian yn y system addysg."

Dywedodd yr undeb bod nifer o wendidau yn y system bresennol o ariannu ysgolion, gan gynnwys diffyg cysondeb ar draws 22 awdurdod addysg Cymru.

Canlyniad hynny, medd yr undeb, yw bod mwy o arian yn cael ei wario y pen mewn rhai siroedd nag mewn eraill, ac mae'r blaenoriaethau addysg yn amrywio hefyd.

Un fformiwla ar gyfer Cymru gyfan

"Mae rhieni â'r hawl i ddisgwyl bod swm teg yn cael ei wario ar addysg eu plant, waeth beth yw eu côd post," meddai Mr Williams.

Pryder arall yw "diffyg tryloywder" ynghylch "yr hyn sy'n digwydd i arian addysg cyn iddo gyrraedd ysgolion unigol", a fformiwlâu dosrannu arian sy'n "seiliedig ar ddata Cyfrifiad 1991 sydd wedi hen ddyddio".

I fynd i'r afael â'r pryderon yma, mae NAHT Cymru'n galw am un fformiwla gyllido ar gyfer Cymru gyfan ar sail meini prawf sy'n berthnasol i bob disgybl.

Dywedodd yr undeb y dylai arian ychwanegol gael ei roi mewn cysylltiad â meini prawf sy'n berthnasol i rai disgyblion difreintiedig.

Maen nhw'n galw hefyd am drefn i gofrestru'n awtomatig am ginio ysgol am ddim.

'System mewn argyfwng'

Yr ail fater sy'n destun pryder i NAHT Cymru yw gallu ysgolion i roi cymorth priodol i ddisgyblion â phroblemau iechyd meddwl yn sgil toriadau ariannol "nawr bod mesurau llymder yn brathu".

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i sicrhau lle canolog i hawliau plant wrth lunio polisïau a deddfau, ac mae gan bob plentyn a pherson ifanc hawl i gefnogaeth iechyd meddwl a lles dan y Ddeddf Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.

Mae cwricwlwm newydd Cymru hefyd yn cynnwys yr hawl i ddisgyblion fod yn unigolion iach a hyderus, sy'n gwybod sut i gael gwybodaeth a chefnogaeth i gadw'n ddiogel ac yn iach.

Ond mae'r undeb yn dweud bod diffyg adnoddau ariannol yn ei gwneud hi'n anodd i ysgolion gwrdd â'r disgwyliadau yn ymarferol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed penaethiaid fod galw cynyddol am wasanaethau iechyd meddwl i gefnogi disgyblion

Dywedodd Mr Williams: "Mae'r galw am wasanaethau iechyd meddwl proffesiynol wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf, ond mae'r cyllid wedi gostwng yn sylweddol.

"Mae hynny'n golygu bod ysgolion yn ei chael hi'n anodd iawn i gael y gefnogaeth sydd angen ar y plant.

"Mae gyda ni nawr system mewn argyfwng lle, yn niffyg cefnogaeth, mae plant a phobl ifanc ar y gorau yn straffaglu i ddysgu - ac ar y gwaethaf mewn perygl difrifol."

Hefyd yn ystod y gynhadledd mae disgwyl i aelodau bleidleisio o blaid cynllun i drio annog mwy o ddynion i fynd i'r sector addysg cynradd, oherwydd pryder bod 'na ddiffyg modelau positif gwrywaidd i blant yn y blynyddoedd cynnar.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n cydnabod y straen mae agenda llymder parhaus Llywodraeth y DU yn ei roi ar ein gwasanaethau cyhoeddus, sef pam, yn gynharach eleni, fe wnaeth yr Ysgrifennydd Addysg gyhoeddi £14m yn rhagor i'w roi yn syth i'r rheng flaen i gefnogi pob ysgol ledled Cymru.

"Fel llywodraeth byddwn yn parhau i flaenoriaethu ariannu ysgolion."