Aelodau'n galw ar ddau AC Plaid i herio Leanne Wood

  • Cyhoeddwyd
Leanne Wood

Mae canghennau Plaid Cymru mewn dwy etholaeth wedi galw ar eu haelodau Cynulliad lleol i herio Leanne Wood am arweinyddiaeth y blaid.

Mae aelodau cangen y blaid yn etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr wedi enwebu Adam Price, ac mae cangen Ynys Môn wedi cefnogi Rhun ap Iorwerth.

Mater i'r ddau AC yw derbyn neu wrthod yr enwebiadau a chynnig eu hunain yn ffurfiol, cyn i'r ffenestr sy'n caniatáu ceisiadau i herio am arweinyddiaeth pleidiau yn y Cynulliad yn cau ar 4 Gorffennaf.

Mae Plaid Cymru wedi cael cais am ymateb.

Mae tri o ACau Plaid Cymru eisoes wedi galw ar gyd-aelodau i ystyried cynnig eu hunain am yr arweinyddiaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Adam Price a Rhun ap Iorwerth

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru fe ddywedodd Leanne Wood y bydd hi'n camu o'r neilltu fel arweinydd Plaid Cymru ar ôl etholiad 2021, os na fydd hi'n brif weinidog.

Dywedodd llefarydd ar ran swyddfa etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr wrth BBC Cymru eu bod wedi enwebu Mr Price ddydd Iau.

Mewn cynhadledd newyddion yr wythnos ddiwethaf fe ddywedodd Mr ap Iorwerth nad oedd ganddo unrhyw gynlluniau i herio Ms Wood am yr arweinyddiaeth.

Ond mewn negeseuon ar ei gyfrif Twitter wedi hynny fe ddywedodd ei fod wedi cael sawl cais i ystyried ymgeisio a'i fod yn "ystyried yn ofalus, wrth gwrs" .