Dyn o Gasnewydd yn euog o ddynladdiad casglwr arian
- Cyhoeddwyd
Mae rheithgor yn Llys y Goron Casnewydd wedi cael dyn lleol yn euog o ddynladdiad casglwr darnau arian prin.
Roedd y llys wedi clywed fod Paul Paget, 54, wedi lladd Anthony Bubbins er mwyn dwyn a gwerthu ei eiddo.
Roedd Paget wedi pledio'n ddi-euog i lofruddiaeth ond fe blediodd yn euog i fyrgleriaeth ac roedd yn cydnabod mai fo laddodd Mr Bubbins.
Bydd yn cael ei ddedfrydu ar 29 Mehefin.
Cafwyd hyd i gorff Mr Bubbins yng nghartref y diffynnydd yn Ffordd Brynderwen, Casnewydd ar 15 Ionawr. Cafodd Paget ei arestio yng Nghernyw y diwrnod canlynol.
Clywodd y rheithgor fod Paget wedi gwahodd Mr Bubbins i'w fflat am bryd o fwyd ar 9 Ionawr,
Ond fe honnodd y diffynnydd fod Mr Bubbins wedi ymosod yn rhywiol ar ddyn o'r enw Jonathan Browning - dyn a gafwyd hyd iddo yn farw yn lle golchi ceir archfarchnad Tesco Casnewydd ym mis Ionawr.
Roedd y ddau wedi ymladd, meddai, ac fe roddodd hosan yng ngheg Mr Bubbins i'w dewi, heb fwriadu i'w ladd. Fe dagodd Mr Bubbins i farwolaeth.
Dywedodd Paget iddo ddrysu'n llwyr ar ôl sylweddoli fod Mr Bubbins yn farw.
Ond fe glywodd y rheithgor fod y diffynnydd wedi ymweld â siop hen bethau yng Nghasnewydd deirgwaith rhwng 10 Ionawr a 15 Ionawr.
Fe werthodd gwerth £925 o nwyddau i'r siop, gan gynnwys darnau sofran aur, medal yr Awyrlu a darn arian Tale of Peter Rabbit.
Dywedodd y Prif Arolygydd Mark Pope o Heddlu Gwent fod yr achos yn un "drasig" a "chymhleth", a'i fod yn gobeithio y bydd canlyniad yr achos cyfreithiol yn rhoi rhyw fath o gysur i'w deulu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2018