ASau i holi'r gweinidog ynni am oedi morlyn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Bydd gwleidyddion yn cwestiynu Gweinidog Ynni y DU, Claire Perry ddydd Llun ynglŷn â'r broses o wneud penderfyniadau ar Forlyn Bae Abertawe.
Bydd y Pwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a'r Pwyllgor Materion Cymreig yn ymchwilio hefyd i'r rhwystrau sydd wedi achosi oedi.
Mae disgwyl i ASau ofyn pryd fydd y penderfyniad yn cael ei gyhoeddi - gyda dyfalu y gallai'r penderfyniad gael ei gadarnhau ddydd Llun.
Bydd y pwyllgorau yn edrych ar gamau'r broses yn ogystal â'r rhesymau pam nad yw'r llywodraeth wedi dod i benderfyniad.
'Canolbwynt diamheuol'
Fe ddechreuodd y trafodaethau archwiliadol gan y llywodraeth yn 2013, a'r sesiwn ddydd Llun yw'r ail un sy'n holi am yr ymchwiliad.
Cafodd y sesiwn gyntaf ei chynnal ddechrau Mai ac ymhlith y rhai a fu'n rhoi tystiolaeth oedd Charles Hendry - awdur yr adolygiad annibynnol ar y morlyn, y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB), Tidal Lagoon Power, y cwmni ymgynghori Aurora Energy Research Ltd, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ystâd y Goron.
Ddydd Sul fe ddywedodd y Ceidwadwyr Cymreig y gallai cefnogi cynllun morlyn Abertawe arwain at "chwyldro economaidd".
Mae'r Ceidwadwyr yn annog aelodau eraill y blaid o fewn Llywodraeth y DU i gefnogi'r cynllun yn dilyn disgwyliadau ei fod ar fin cael ei wrthod.
Mae gweinidogion wedi dweud fod rhaid i'r cynllun £1.3bn ddangos gwerth am arian.
Dywedodd Suzy Davies AC y byddai'r morlyn yn dangos ei werth ariannol, a gall y DU ddod yn ganolbwynt "diamheuol" drwy'r byd o ran arbenigedd yn y maes.
Yn gynharach ym mis Mehefin fe wnaeth y Prif Weinidog Carwyn Jones gynnig £200m o arian Llywodraeth Cymru tuag at adeiladu'r morlyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2017