Gwasanaeth cyfiawnder i'w ddarparu'n hollol ddwyieithog
- Cyhoeddwyd
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cyhoeddi manylion cynllun sy'n gwneud addewid i ddarparu gwasanaethau Cymraeg i'r un safon a chysondeb â'r rhai Saesneg.
Bydd yr adran yn hysbysebu swyddi gwag ar gyfer staff, barnwyr ac ynadon yng Nghymru yn ddwyieithog, ac yn trefnu i'r hysbysebion ymddangos mewn cyhoeddiadau Cymraeg.
Yn ôl Ysgrifennydd Parhaol y weinyddiaeth, Richard Heaton, mae'r newidiadau'n cefnogi un o'u hamcanion mwyaf sylfaenol, sef "gwneud mynediad at gyfiawnder yn haws i bawb".
Mae'r cynllun, dolen allanol wedi ei gymeradwyo gan Gomisiynydd y Gymraeg.
'Wedi gwrando'
Mae'r newidiadau'n berthnasol i bob un o'r cyrff sy'n rhan o'r weinyddiaeth:
Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi;
Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi;
Yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol;
Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus;
Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol.
Bydd pob corff yn mabwysiadu ei fersiwn ei hun o'r rhaglen.
Dywedodd Mr Heaton: "Fe wnaethon ni wrando'n ofalus ar yr adborth o'n hymgynghoriad cyhoeddus a bydd y gwelliannau hyn yn ein galluogi i ddarparu gwasanaeth sy'n gweithio'n well i siaradwyr Cymraeg."
Mae'r camau i drin y ddwy iaith yn gyfartal yn cynnwys:
Ymateb yn Gymraeg i ohebiaeth sy'n cael ei dderbyn yn Gymraeg o fewn yr un amserlen â gohebiaeth yn Saesneg;
Cyhoeddi cynnwys Cymraeg ar wefan y weinyddiaeth;
Sicrhau bod digwyddiadau yng Nghymru'n cael eu hyrwyddo yn Gymraeg a bod unigolion sy'n cymryd rhan yn gallu gwneud hynny yn Gymraeg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd13 Medi 2017
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2016