Carcharu dyn am ddynladdiad y fyfyrwraig Eloise Parry

  • Cyhoeddwyd
Eloise ParryFfynhonnell y llun, Llun Teulu

Mae dyn 30 oed o Hampshire wedi cael dedfryd o saith mlynedd o garchar am ddynladdiad myfyrwraig ym Mhrifysgol Glyndŵr, Wrecsam.

Bu farw Eloise Parry, oedd yn 21 oed ac o Amwythig, yn Ysbyty Brenhinol Amwythig yn Ebrill 2015 ar ôl llyncu wyth tabled wenwynig.

Roedd y tabledi'n cynnwys y cemegyn diwydiannol dinitrophenol, sy'n cael ei adnabod fel DNP.

Fe gafwyd Bernard Rebelo o Gosport yn euog ddydd Mercher yn Llys y Goron Canol Llundain o ddau gyhuddiad o ddynladdiad ac un cyhuddiad o werthu bwyd anniogel.

Roedd y llys wedi clywed fod Miss Parry â'r cyflwr bwlimia, a'i bod wedi cael problemau iechyd meddwl yn ei harddegau. Cyn ei marwolaeth, fe gafodd sawl triniaeth ysbyty at sgileffeithiau'r tabledi.

'Dim edifeirwch'

Dywedodd y Barnwr Jeremy Donne fod Miss Parry yn "ddynes ifanc ddeallus a huawdl oedd yn cael trafferthion gyda'i hiechyd meddwl".

"Doedd Rebelo," meddai, "ddim wedi dangos unrhyw edifeirwch am achosi ei marwolaeth."

Dywedodd wrth y diffynnydd: "Dywedir eich bod yn ddyn teulu serchus.... rwy'n gobeithio y gallwch chi ystyried effaith marwolaeth Eloise ar ei mam, chwaer a gweddill y teulu."

Disgrifiad o’r llun,

Plediodd Bernard Rebelo yn ddieuog i'r cyhuddiad o ddynladdiad

Roedd Rebelo yn gwadu dynladdiad, ond yn cyfaddef ei fod wedi gwerthu'r tabledi i Miss Parry. Mynnodd ei fod wedi dweud wrthi bod rhybudd am y cyffuriau ar y wefan.

Yn ôl yr erlyniad, mae cymryd DNP yn debyg i "chwarae Russian roulette".

Mewn datganiad wedi'r ddedfryd, fe ddywedodd mam Miss Parry, Fiona Parry fod "llawer o broblemau" ym mywyd ei merch ond roedd yna "arwyddion positif fod pethau'n newid er gwell".

Dywedodd ei bod yn bwriadu teithio'r byd ac yn meddwl am yrfa ar ôl graddio.

Ychwanegodd Ms Parry nad oedd wedi disgwyl y byddai unrhyw un yn cael ei erlyn mewn cysylltiad â'r achos, ac y byddai'r ddedfryd yn helpu'r teulu "i ddod i delerau â'r hyn a ddigwyddodd".

Dywedodd hefyd fod yna rywfaint o gyfrifoldeb ar y cwmni oedd yn llwyfannu gwefan Rebelo, ac mae'n galw am gwmnïau o'r fath i ystyried canlyniadau'r "hyn maen nhw'n caniatáu i eraill ei wneud".