Eloise Parry: Dyn yn euog o ddynladdiad
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ei gael yn euog o ddynladdiad myfyrwraig o Wrecsam a brynodd gyffuriau colli pwysau gwenwynig o'i wefan.
Bu farw Eloise Parry, 21 oed o Abwythig, ar ôl llyncu wyth pilsen oedd yn cynnwys dinitrophenol (DNP).
Cafodd llys y goron yn Llundain Bernard Rebelo, 30 oed, o Gosport yn Hampshire, yn euog o ddynladdiad.
Cyn ei marwolaeth ym mis Ebrill 2015, cafodd Miss Parry sawl triniaeth ysbyty i sgileffeithiau'r tabledi.
Rhybudd
Yn ystod yr achos, cyfaddefodd Rebelo, oedd yn gwadu dynladdiad, ei fod wedi gwerthu'r tabledi iddi, ond ei fod wedi dweud wrthi bod rhybudd am y cyffuriau ar y wefan.
Cafodd cyhuddiadau yn erbyn dau arall eu gollwng, wedi i'r barnwr ddyfarnu nad oedd digon o dystiolaeth yn eu herbyn.
Mae DNP yn sylwedd hynod wenwynig os yw'n cael ei lyncu, ei anadlu neu'n cael ei amsugno drwy'r croen.
Mae'n achosi pobl i golli pwysau drwy losgi braster a charbohydradau, ac mae'n troi egni'n wres.
Clywodd y llys fod cyflwr bwlimia ar Miss Parry, myfyriwr ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam, a'i bod wedi cael problemau iechyd meddwl yn ei harddegau.
Dywedodd ei chwaer, Rebecca, bod ei holl sylw wedi mynd ar golli pwysau yn y misoedd cyn ei marwolaeth, a'i bod wedi mynd yn gaeth i'r cyffuriau yn fuan ar ôl dechrau eu cymryd ym mis Chwefror 2015.
Gwerthu 'am elw mawr'
Clywodd y llys fod Rebelo yn rhedeg ei fusnes o'i fflat yn Harrow yng ngogledd orllewin Llundain, a'i fod yn gwneud y tabledi i'w gwerthu am elw mawr.
Roedd y cemegolion yn dod mewn cynhwysyddion mawr o China, ac yn osgoi awdurdodau fel yr Asiantaeth Safonau Bwys ac Interpol, a oedd wedi ceisio atal y busnes.
Mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu ddydd Gwener.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2018
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2015