Tân coedwig yng Nghwm Rheidol ger Aberystwyth yn ailgydio

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Hofrennydd yn ceisio diffodd y tân yng Nghwm Rheidol

Mae tân sydd wedi bod yn llosgi yng Ngheredigion ers deuddydd wedi ailgydio, yn ôl yr awdurdodau.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod 28 o ymladdwyr tân ar y safle yng Nghwm Rheidol nos Iau.

Cafodd arbenigwr tanau gwyllt ei ddanfon i'r safle ger Aberystwyth wedi i'r gwynt godi a gwaethygu'r sefyllfa.

Mae'r olygfa'n "anghredadwy" yn ôl un o drigolion Cwm Rheidiol a fu'n gwylio hofrennydd yn gollwg dŵr ar y fflamau.

"Mae fel ceisio diffodd coelcerth gyda llwyaid o ddŵr," dywedodd Kimberley Moseley

"Mae maint y peth yn eithaf brawychus. Mae wedi dinistrio'r pinwydd a'r llarwydd fel papur."

Ffynhonnell y llun, Brian Jones

Cafodd diffoddwyr eu galw i'r safle fore Mawrth yn wreiddiol, ond erbyn y diwrnod canlynol roedden nhw'n ceisio diffodd beth oedd yn weddill.

Mae'r tân wedi bod yn llosgi ger rheilffordd Cwm Rheidol, oedd ar gau ddydd Mercher oherwydd y fflamau.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran y rheilffordd fod y gwasanaeth wedi rhedeg fel yr arfer fore Iau, cyn gorfod cael ei ganslo eto wedi i'r tân gryfhau.

Dywedodd un o'r trigolion lleol, Brian Jones o Lanfihangel-y-Creuddyn, wrth BBC Cymru fod y tân diweddaraf yn ymddangos yn gryfach a bod pryderon y gallai ledu oherwydd y gwynt.