Ymladdwyr yn delio a sawl tân yn y tywydd poeth

  • Cyhoeddwyd
tanFfynhonnell y llun, EMMA-LOUISE O'SHEA
Disgrifiad o’r llun,

Tân yn llosgi ar fynydd Maerdy yn Rhondda Cynon Taf

Mae ymladdwyr tân yn delio â nifer o danau wrth i'r tywydd poeth barhau.

Fe gafodd hofrennydd ei anfon i ddelio a thân ar fynydd Maerdy yn Rhondda Cynon Taf fore Sadwrn, wrth i griwiau geisio diffodd fflamau a ddechreuodd ddydd Gwener.

Cafodd tri chriw hefyd wedi eu hanfon i ddelio â fflamau yn Nhalsarnau yng Ngwynedd, tra bo swyddogion yn parhau i gadw llygad ar danau gafodd eu diffodd yng Nghwm Rheidol yng Ngheredigion, Pen-bre yn Sir Gaerfyrddin, a Maesteg yn Sir Pen-y-bont.

'Llosgi drwy'r nos'

Dywedodd Kelly George, sy'n byw'n agos i fynydd Maerdy fod y tân yno wedi bod yn llosgi drwy'r nos: "Roedd llawer o fwg drwy'r nos, ac roedden ni'n gallu gwynto'r arogl er ein bod yn y gwely a'r ffenestri ar gau.

"Dwi ddim yn gallu gweld fflamau o ble ydw i ond mae llawer o fwg yn dod oddi ar y mynydd nawr.

"Gadawodd y dynion tân ochr y mynydd tua 09:00. Mae'r hofrenydd yn mynd yn ôl ac ymlaen, yn ail lenwi yng Nghronfa Ddŵr Maerdy gyda bwced mawr."

Ffynhonnell y llun, Brian Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd criwiau tân eu galw i Gwm Rheidol am y tro cyntaf ddydd Mawrth

Mae'r gwasanaeth tân hefyd yn dal i gadw llygad ar y sefyllfa yng Nghwm Rheidol yng Ngheredigion.

Cafodd criwiau eu galw'n ôl yno ddydd Gwener wedi i goedwig fynd ar dân yno'n gynharach yn yr wythnos.

Ar un adeg ddydd Mawrth, roedd 28 ymladdwr tân yn taclo fflamau yno, a chafodd arbenigwyr tanau gwyllt eu galw i roi cyngor.

Cafodd hofrennydd oedd â'r gallu i gludo 1,000 liter o ddŵr ar y tro ei ddefnyddio i gael rheolaeth ar y tân.

Ffynhonnell y llun, ANDI STALLWOOD
Disgrifiad o’r llun,

Mwg yn codi o fynydd ym Mhen-bre

Yn y gogledd, mae tri chriw wedi eu galw i ddiffodd fflamau yn Nhalsarnau yng Ngwynedd.

Cafodd y gwasnaeth tân 92 galwad gan bobl ym Maesteg yn sir Pen-y-bont ar Ogwr nos Wener, wedi i fflamau gydio ar fynydd y Garth.

Cafodd y tân eithin hwnnw ei ddiffodd erbyn 04:30 fore Sadwrn.

Hefyd dros nos, llwyddodd ymladdwyr i ddiffodd fflamau ar fynydd Pen-bre yn Sir Gaerfyrddin.