Criwiau'n parhau ar safle tân coedwig Cwm Rheidol
- Cyhoeddwyd

Roedd mwg i'w weld eto yng Nghwm Rheidol fore Gwener
Mae criwiau'n parhau i fonitro tân yng Nghwm Rheidol ger Aberystwyth ddydd Gwener.
Cafodd sawl criw a hofrennydd eu galw i daclo'r fflamau ddydd Iau, wrth i'r tân ailgydio.
Roedd criwiau'n credu bod y tân wedi ei ddiffodd wrth adael y safle am 21:30 nos Iau, ond mae mwg wedi ei weld eto fore Gwener.
Dywedodd Rheolwr Gorsaf Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin a Chanolbarth Cymru, Neil Evans, bod gwyntoedd cryf yn lledu'r tân.
Hofrennydd yn ceisio diffodd y tân yng Nghwm Rheidol

"Maen nhw wedi diffodd y rhan fwyaf o'r tân, am yr ail dro mae'n debyg, ond mae gyda ni dir anodd iawn mewn ardal goediog gyda chlogwyni serth lle mae'n anodd i ddiffoddwyr gyrraedd.
"Mae'n golygu bod mannau poeth yn parhau o fewn yr ardal sydd wedi llosgi, a'r hyn ddigwyddodd ddoe oedd bod gwyntoedd yn chwyrlio ac yn cario'r tân i rannau sych ar hyd y cwm lle mae'n ailgydio."
Ychwanegodd y byddai diffoddwyr yn monitro'r sefyllfa yn ystod y dydd.
Mae Rheilffordd Cwm Rheidol wedi canslo trenau eto ddydd Gwener oherwydd y tan.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2018