Swyddogion yn parhau i ddelio â thanau gwyllt
- Cyhoeddwyd
Mae swyddogion yn parhau i ddelio â thanau gwyllt mewn sawl ardal.
Mae criwiau o wasanaeth tân y gogledd yn dal i geisio diffodd tân ar dir uwchben Talsarnau yng Ngwynedd.
Bu dau griw wrthi'n brwydro'r fflamau drwy ddydd Sadwrn, ac mae dau griw pellach wedi eu hanfon fore Sul.
Yn y cyfamser, mae dau griw yn dal i ddelio a thân yng Nghwm Rheidol yng Ngheredigion.
Fe ddechreuodd y tan hwnnw ddydd Mawrth, ac fe gafodd hofrennydd ei ddefnyddio fel rhan o'r ymdrechion i ddiffodd y fflamau.
Mae hi'n benwythnos prysur i griwiau ar draws y wlad, gyda thanau gwyllt ym Mhen-bre a Bronwydd yn Sir Gaerfyrddin, mynydd Cilfái ger Abertawe, Cwm Clydach a Mynydd Maerdy yn y Rhondda.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod yn parhau i gadaw llygad ar sawl safle.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2018