Wood: Dau arweinydd ar Blaid Cymru 'ddim yn ymarferol'

  • Cyhoeddwyd
Leanne WoodFfynhonnell y llun, Welsh Assembly

Mae Leanne Wood wedi mynnu ei bod yn parhau i fod eisiau dod yn brif weinidog ar Gymru, ac na fyddai'n gwneud synnwyr iddi rannu grym.

Dywedodd Adam Price y byddai'n herio Ms Wood am arweinyddiaeth Plaid Cymru os nad oedd hi'n cytuno i'w gynllun.

Wnaeth hi ddim diystyrru'r syniad yn llwyr, ond dywedodd nad oedd yn gweld "sut fyddai'n gweithio'n ymarferol".

Ychwanegodd y byddai'n hyderus "iawn" o ennill unrhyw her arweinyddol yn ei herbyn.

'Swydd yn y fantol'

Mae rheolau'r blaid yn caniatáu her i'r arweinyddiaeth bob dwy flynedd, ac mae'r cyfle i wneud hynny'n dod i ben ddydd Mercher.

Dywedodd grŵp y blaid yn y Cynulliad mai aelodau cyffredin ddylai ddewis mabwysiadu system o ddau arweinydd ai peidio.

"Bydden i'n cael dau etholiad ar gyfer dau arweinydd," meddai Ms Wood. "Mae cymaint o gwestiynau ynghylch y peth.

"Bydden i ddim yn diystyrru'r peth yn llwyr. Ond mor hwyr a hyn, allai ddim gweld sut uy byddai'n gweithio fel cynnig go iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Adam Price wedi awgrymu cael dyn a dynes i arwain y blaid ar y cyd

Yn gynharach ddydd Mawrth yn dilyn cyfarfod o grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad, dywedodd Ms Wood: "Mae Cymru'n wynebu heriau sylweddol a dyna pam bod angen llywodraeth Plaid Cymru fwy nag erioed.

"Dwi eisiau arwain y blaid hon gyda phlatfform positif hyd nes etholiad 2021 a dwi'n bwriadu dod yn brif weinidog.

"Dwi wedi gosod y bar yn uchel i fy hun, a dwi'n rhoi fy swydd yn y fantol ar ei gyfer."

Ychwanegodd Ms Wood mai mater i aelodau cyffredin ddylai hi fod ynglŷn ag unrhyw newid i strwythurau arweinyddol y blaid.

'Haws efo un'

Mewn erthygl yn y Western Mail ddydd Llun dywedodd Mr Price ei fod yn "amlwg i mi na all un arweinydd arwain yr un blaid ar ei ben ei hun".

Ond dywedodd Dai Lloyd AC, sy'n cefnogi Ms Wood, y dylai unrhyw gystadleuaeth am yr arweinyddiaeth fod yn un "gonfensiynol".

"Dyna beth mae pobl yn ei ddeall," meddai Dr Lloyd.

"Byddai pobl yn dweud pwy yw'r arweinydd - pwy sy'n mynd i fan hyn, pwy sy'n meddwl hyn a phwy sy'n trefnu? Mae'n haws 'efo un."

Ychwanegodd: "Ar ddiwedd y dydd dydw i ddim yn siŵr faint y bydd hyn yn cyfrannu at y penderfyniad sydd angen ei wneud falle.

"Ydych chi am ei herio ar gyfer yr arweinyddiaeth ai peidio?"

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dai Lloyd ei bod yn "haws" cael un person i arwain y blaid

Mewn neges Twitter ddydd Llun fe wnaeth Simon Thomas AC alw ar Mr Price un ai i gefnogi Ms Wood neu ei herio am yr arweinyddiaeth cyn bod y ffenestr i wneud hynny'n cau ddydd Mercher.

"Fe wnaethon ni drio hyn o'r blaen ac roedd e'n drychinebus. Adam oedd un o'r rheiny helpodd i gael y strwythur arweinyddiaeth yn iawn," meddai AC Canolbarth a Gorllewin Cymru.

"Un ai cefnogwch Leanne i arwain neu heriwch hi. Does dim llwybr hawdd i'r copa."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sian Gwenllian nad yw'r amgylchiadau'n iawn i rannu swydd yr arweinydd

Ychwanegodd AC Arfon, Sian Gwenllian - sydd wedi arwyddo llythyr yn galw am gystadleuaeth am yr arweinyddiaeth - nad ydy hi'n cefnogi syniad Mr Price chwaith.

"Rwy'n cefnogi'r syniad o rannu swydd ac rydyn ni angen trafod ffyrdd newydd o weithio, gan gynnwys o fewn pleidiau gwleidyddol, ond dydw i ddim yn meddwl bod yr amgylchiadau'n iawn yn yr achos yma," meddai.