Ethol Myrddin ap Dafydd yn Archdderwydd yr Orsedd

  • Cyhoeddwyd
Myrddin ap DafyddFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Myrddin ap Dafydd wedi ennill y Gadair ddwywaith, yn 1990 a 2002

Mae Gorsedd y Beirdd wedi cadarnhau mai'r Prifardd Myrddin ap Dafydd fydd yr Archdderwydd newydd.

Daeth y cyhoeddiad yn Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy y bydd yn olynu Geraint Llifon am y cyfnod o 2019 hyd at 2022.

Un enwebiad gafodd ei dderbyn erbyn y dyddiad cau, felly ni fydd angen cynnal etholiad, a bydd cyfarfod cyffredinol Bwrdd yr Orsedd yn cadarnhau'r enwebiad yn Eisteddfod Caerdydd eleni.

Dywedodd Mr ap Dafydd ei fod wedi derbyn yr enwebiad am iddo gael ei berswadio gan "griw o genhedlaeth iau".

Daw'r cyhoeddiad wedi iddi ddod i'r amlwg mai Tregaron fydd yn cynnal Eisteddfod Ceredigion yn 2020.

Disgrifiad,

Dywedodd Myrddin ap Dafydd mai cael ei enwebu gan "griw o feirdd a llenorion iau" wnaeth ei berswadio i dderbyn

Mae'r bardd a'r cyhoeddwr o Ddyffryn Conwy wedi ennill y Gadair ddwywaith - yng Nghwm Rhymni yn 1990 a Sir Benfro yn 2002 - ac mae wedi beirniadu'r gystadleuaeth droeon.

Sefydlodd Gwasg Carreg Gwalch yn 1980, ac mae hefyd yn gyfarwyddwr ar Oriel Tonnau a Chwrw Llŷn.

Mr ap Dafydd oedd y Bardd Plant cyntaf yn 2000, ac mae wedi ysgrifennu nifer o gyfrolau ar gyfer pobl ifanc am hanes a chwedloniaeth Cymru.

Mae hefyd yn un o'r Llywyddion Anrhydeddus ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019.

'Amser wedi dod i dderbyn'

"Mae nifer wedi ceisio fy mherswadio i gael fy enwebu am swydd Archdderwydd dros y blynyddoedd - pobl y mae gen i barch aruthrol atyn nhw - ond un peth sydd wedi gwneud gwahaniaeth y tro yma ydi mai criw o genhedlaeth iau na fi oedd am gynnig fy enw," meddai.

"Mi deimlais fod yr amser wedi dod i mi dderbyn. Dwi'n edrych ymlaen at y gwaith yn arw rŵan - mae cael bod yn rhan o'r ŵyl yn Nyffryn Conwy yn golygu llawer i mi, wrth gwrs.

"Mae'r swydd hefyd yn ymwneud â chryfhau, ymestyn ac amddiffyn popeth Cymraeg a Chymreig.

"Yn y cyfnod hwn mae'n golygu gwrthsefyll y tueddiadau cul, ynysig sy'n dod o gyfeiriad Llundain a chreu cyfeillion newydd i'n diwylliant mewn gwledydd eraill."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Myrddin ap Dafydd yn olynu Geraint Llifon fel Archdderwydd yr Orsedd

Bydd Mr ap Dafydd yn cael ei gyflwyno yn ei rôl newydd yn ystod seremoni'r Cadeirio yn Eisteddfod Caerdydd fis nesaf.

Dyma hefyd fydd seremoni olaf yr Archdderwydd am y cyfnod o 2016-19, Geraint Llifon, wedi iddo yntau olynu'r Archdderwydd Christine.