Cynnig i gau tair ysgol gynradd yng Ngheredigion
- Cyhoeddwyd
Bydd Cyngor Ceredigion yn cynnal ymgynghoriad ar gynlluniau i gau tair ysgol gynradd yn y sir.
Ddydd Mawrth, fe gytunodd cabinet y cyngor i gefnogi argymhelliad y Panel Adolygu Ysgolion i ystyried dyfodol ysgolion Beulah a Threwen ger Castell Newydd Emlyn, ac Ysgol Cilcennin sydd rhwng Llanbedr Pont Steffan ac Aberaeron.
Os yw'r cynlluniau'n cael eu gwireddu yna bydd y tair ysgol yn cau ar ddiwedd mis Awst 2019.
Ond penderfynodd y cabinet gadw Ysgol Cenarth, sydd i'r gorllewin o Gastell Newydd Emlyn, ar agor.
Bydd ymgynghoriad ar y cynlluniau yn cychwyn ym mis Medi 2018.
'Ymladd i gadw ysgolion'
Ym mis Mai 2016 fe wnaeth y cyngor drafod dyfodol Ysgol Cilcennin fel rhan o adolygiad "anffurfiol" ar ddarpariaeth addysg yn Nyffryn Aeron.
Mae dwy gymuned yng Ngheredigion yn bwriadu "ymladd i gadw eu hysgolion".
Dywedodd y Cynghorydd Lyndon Lloyd bod ysgolion Beulah a Threwen yn "byw mewn gobaith" y byddan nhw'n aros ar agor.
Mewn cyfarfod llywodraethwyr yn Ysgol Trewen nos Fawrth, ymrwymodd rhieni i geisio codi nifer disgyblion yr ysgol. 14 plentyn sydd yno ar hyn o bryd.
Yn Ysgol Beulah, y bwriad yw codi arian er mwyn annog Cyngor Ceredigion i gadw'r ysgol ar agor.
Mae rhieni'r ysgol wedi codi dros £1,000 tuag at yr ymdrech yn barod.
'Ymgynghoriad llawn'
Wedi'r drafodaeth fore Mawrth, dywedodd yr aelod cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu, y cynghorydd Catrin Miles: "Mae'r Panel Adolygu Ysgolion wedi ystyried yn fanwl y ffactorau dilys ar gyfer dyfodol darpariaeth addysg yn ardal Ysgolion Cynradd Beulah a Threwen a hefyd yn ardal Ysgol Gynradd Cilcennin.
"Yn dilyn cymeradwyaeth y cabinet o argymhellion y panel, mae nawr yn hanfodol ein bod yn ymgynghori yn llawn er mwyn derbyn adborth y cymunedau lleol ar y cynigion."
Y cyngor llawn fydd yn gwneud unrhyw benderfyniadau pellach unwaith bydd yr ymgynghoriad ar ben.
Mae gan gynghorwyr yr hawl i alw'r penderfyniad i mewn o dan brosesau archwilio'r cyngor.