Trafodaethau 'anffurfiol' i drafod ysgolion Ceredigion

  • Cyhoeddwyd
Ysgol CilcenninFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Ysgol Cilcennin sydd â'r nifer isa' o ddisgyblion a'r ganran ucha' o lefydd gwag yn y dalgylch

Mae Cabinet Ceredigion wedi penderfynu cynnal ymgynghoriad neu drafodaethau "anffurfiol" yn Nyffryn Aeron ynglŷn â dyfodol ysgolion cynradd yr ardal.

Daw hyn ar ôl y cyfarfod bore ddydd Mawrth i drafod opsiynau gan gynnwys cau pedair o ysgolion, sef Cilcennin, Ciliau Parc, Dihewyd a Felinfach.

Nawr bydd y cyngor yn cynnal trafodaethau gyda rhieni, staff a llywodraethwyr cyn dod i benderfyniad terfynol.

Yn y cyfarfod fore Mawrth penderfynodd cynghorwyr y byddan nhw'n argymell mai'r opsiwn yr oeddynt yn ffafrio oedd cau'r ysgolion a sefydlu ysgol ardal ar gampws Theatr Felinfach.

Dywed adroddiad gan swyddogion y byddai hyn hefyd yn sicrhau dyfodol y theatr, sydd ar hyn o bryd yn costio £256,000 y flwyddyn i'w gynnal.

Fe fydd y trafodaethau anffurfiol gyda'r cymunedau lleol yn cael eu cynnal cyn dechrau gwyliau'r haf, ac yna bydd cabinet y sir yn trafod y sefyllfa ym mis Medi.

Roedd y cabinet yn trafod sawl opsiwn, dolen allanol wrth ystyried dyfodol 10 o ysgolion ardal Aberaeron.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna 36 disgybl yn cael eu haddysg yn Ysgol Dihewyd

Sefyllfa gyfarwydd

I gefnogwyr ysgol Dihewyd mae'n sefyllfa gyfarwydd - roedd yr ysgol yn wynebu cau rhai blynyddoedd yn ôl.

Ar un adeg dim ond 11 o blant oedd ganddi. Erbyn hyn mae 36 ar y gofrestr ond mae'r dyfodol yn ansicr eto.

Arwyddair yr ysgol yw 'Pentref heb ysgol, pentref heb galon' ac mae rhieni yn addo brwydro i geisio ei diogelu.

"Byddai colli'r ysgol yn drasig i'r ardal gyfan", yn ôl Anna Lewis, mam i ddau o blant yn yr ysgol.

"Ry'n ni'n gymuned glos a chalon y gymuned yw'r ysgol - byddwn ni'n ymladd yn galed dros yr ysgol."

Cyfanswm o 171 o blant sydd rhwng y pedair ysgol - y lleiaf ohonyn nhw yw Ysgol Cilcennin ac mae un o'r opsiynau gerbron y Cabinet yn cynnig cau honno yn unig.

Yn ôl Cyngor Ceredigion, byddai ad-drefnu yn gostwng nifer y llefydd gwag ac yn lleihau cost yr addysg fesul disgybl. Byddai hefyd yn darparu'r cyfleusterau diweddara'. Ond mae cefnogwyr yr ysgolion yn pryderu beth fyddai effaith cau ar eu cymunedau.