Carwyn Jones: 'Anodd ar Lafur heb ferch yn y ras i arwain'

  • Cyhoeddwyd
Carwyn JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Carwyn Jones yn camu o'r neilltu fel arweinydd y blaid Lafur yng Nghymru yn yr hydref

Bydd hi'n anodd ar Lafur Cymru os nag oes ymgeisydd benywaidd yn y ras ar gyfer arweinydd nesaf y blaid, yn ôl y Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Bydd aelodau yn pleidleisio ar olynydd i Mr Jones yn yr hydref.

Hyd yma dim ond un ferch, Eluned Morgan, sydd wedi dweud y byddai'n dymuno'r rôl ond mae hi eto i gael unrhyw enwebiadau gan ACau.

Dywedodd Mr Jones y byddai peidio cael merch yn y ras "ddim yn edrych yn dda".

Yn y cyfamser mae Debbie Wilcox, arweinydd Cyngor Casnewydd, wedi cefnogi Ms Morgan.

'Ddim yn edrych yn dda'

Dywedodd Mr Jones: "Dwi ddim am ddweud pwy ddylai fod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru ond mi allai fod yn anodd arnom i fod mewn safle [lle nad oes merch yn y ras].

Ychwanegodd: "Dyw e ddim yn rhywbeth dwi'n gallu ei reoli. Fydda i ddim yn enwebu neb ond bydde hi ddim yn edrych yn dda o ystyried ein nod o geisio cael gwell cydraddoldeb."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Debbie Wilcox yn arwain Cyngor Casnewydd a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Mewn erthygl i Gymdeithas y Ffabiaid yng Nghymru, dywedodd Ms Wilcox: "Mae'n 100 mlynedd ers i ferched gael pleidlais.

"Yn 2018, fe anrhydeddodd Carwyn [Jones] hyn drwy alw am lywodraeth ffeministaidd.

"Mae braidd yn rhyfedd wedyn bod yr un llywodraeth yn wynebu risg o beidio cael hyd yn oed merch yn ras i fod yn arweinydd!

"Gan nad yw hyn yn bosib dan reolau presennol y ras, rhaid i amodau'r ras newid.

"Rydyn ni angen merch yn y ras ac Eluned Morgan ddylai honno fod."

Disgrifiad o’r llun,

Dyw Eluned Morgan ddim eto wedi cael yr enwebiadau sydd eu hangen ar gyfer ymgeisio

Wrth alw ar ACau i enwebu Ms Morgan, ychwanegodd Ms Wilcox: "Yn Nhŷ'r Arglwyddi, yn Senedd yr UE ac yn y Cynulliad mae Eluned Morgan wedi profi ei hun sawl gwaith - nid dim ond fel cyfaill i ferched ond hefyd i gymunedau sydd ddim yn cael eu cynrychioli'n deg."

Mae ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth Llafur Cymru angen pump AC arall i'w cefnogi.

Ar hyn o bryd dim ond un ymgeisydd, Mark Drakeford, sydd wedi cael digon o enwebiadau, gyda 12 cefnogwr.

Mae Vaughan Gething yn fyr o un AC i'w gefnogi.

Un arall sydd wedi dweud ei fod yn bwriadu sefyll yw Huw Irranca Davies, ond fel Ms Morgan nid yw wedi cael cefnogaeth yr un AC hyd yma.

Dyw'r amser cau ar gyfer cyflwyno enwebiad ddim eto wedi'i gyhoeddi.