'Dim bai' am farwolaeth Kiara Moore yn Afon Teifi, medd tad
- Cyhoeddwyd
Mae tad i ferch ddyflwydd oed a foddodd yn Afon Teifi yn dweud nad oedd bai ar neb am ei marwolaeth, a'i fod yn cael cysur o fod yn agos i'r dŵr lle collodd ei bywyd.
Bu farw Kiara Moore ym mis Mawrth eleni, ychydig ddyddiau cyn ei phen-blwydd yn dair oed.
Roedd hi'n eistedd yng nghar ei rhieni ar lan yr afon yn Aberteifi, pan rowliodd y cerbyd i'r dŵr.
Roedd ei rhieni wedi galw yn adeilad eu busnes wrth ymyl yr afon, Adventure Beyond, ar y pryd.
I ddechrau, roedd Jet a Kim Moore yn meddwl bod y car wedi ei ddwyn, ond daeth yr heddlu o hyd i'r Mini arian yn yr afon yn ddiweddarach, a chorff Kiara ynddo.
Wrth siarad am ei golled, dywedodd Jet Moore fod yr afon yn cynnig therapi iddo wrth iddo geisio dod i delerau â marwolaeth ei ferch.
"Roedd Kiara'n caru'r dŵr, boed hynny mewn pwll nofio neu allan gyda ni," meddai.
"Does dim pwynt beio neb. Damwain oedd e."
"Rydych chi'n dal i ddychmygu ei bod hi yma, efallai mai dyna fy ffordd i o ddelio ag e, ond mae ei hapusrwydd a'i hwyl hi yn dal gyda mi."
Esboniodd Mr Moore, 40 oed, ei fod wedi treulio'i holl fywyd o gwmpas yr afon: "Mae [yr afon] wedi rhoi cymaint i mi, ond mae hi hefyd wedi mynd â rhywbeth arbennig oddi wrtha i.
"Mae bod y tu allan wedi bod o help i mi.
"Dwi'n dal i feddwl amdani hi a'r hyn ddigwyddodd drwy'r amser, ond dwi'n trio arwain fy meddwl i le positif a chofio faint o hwyl gafodd hi hefyd."
Mae'r heddlu eisoes wedi cadarnhau na fyddai camau'n cael eu dwyn yn erbyn neb mewn cysylltiad â marwolaeth y ferch fach.
Cymorth i eraill
Esboniodd Mr Moore fod cronfa wedi ei sefydlu gyda'r nod o ddarparu cymorth i eraill er cof am Kiara.
Eu gobaith yw cynnig therapi antur i deuluoedd eraill sydd wedi colli rhywun annwyl: "Dwi'n chwilio am syniadau, cymaint â dim.
"Eich gobaith chi yw y bydd eich plant yn mynd ymlaen i wneud pethau mawr.
"Dwi'n gobeithio mai dyma fydd gwaddol Kiara. Y gall hyn arwain at rywbeth da."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd14 Mai 2018