Darllen yn Well: Llyfrau Cymraeg i bobl â dementia
- Cyhoeddwyd

Bydd cynllun i ddarparu llyfrau arbennig i gynorthwyo pobl â dementia, eu teuluoedd a'u gofalwyr yn cael ei lansio nos Fercher.
Drwy gynllun Darllen yn Well, bydd fersiynau Cymraeg o lyfrau hefyd ar gael mewn llyfrgelloedd, er mwyn i bobl dderbyn mwy o wybodaeth am y cyflwr.
Dywedodd yr ysgrifennydd iechyd bod y fenter yn gam pwysig tuag at greu "cenedl ddementia-gyfeillgar".
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod astudiaethau diweddar yn amcangyfrif bod rhwng 33,444 a 55,829 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghymru.
Yn ogystal â hynny, mae arbenigwyr yn amcangyfrif y bydd nifer y bobl yng Nghymru sydd â dementia yn cynyddu 31% erbyn 2021.

Bydd nofelau, hunangofiannau a llyfrau lluniau arbennig i bobl â dementia ar gael, yn ogystal â chyfrolau hunangymorth i ofalwyr a pherthnasau
Bydd Darllen yn Well: Llyfrau ar Bresgripsiwn yn darparu llyfrau amrywiol am iechyd meddwl a dementia yn y Gymraeg - gan gynnwys ffuglen, hunangofiannau a llyfrau lluniau - drwy lyfrgelloedd lleol cyn diwedd haf 2018.
Mae'r rhestr o gyfrolau fydd ar gael i fenthyg drwy'r fenter wedi eu curadu gan Yr Asiantaeth Ddarllen a Chymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru (SCL Cymru) ac wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg gan Gyngor Llyfrau Cymru.
Bydd swyddogion proffesiynol ym maes iechyd meddwl yn gallu argymell llyfr i unrhyw un sydd angen mwy o wybodaeth, gan eu cyfeirio at eu llyfrgell leol, lle fydd y llyfrau ar gael.
Mae'r fenter yn cael ei lansio yng Nghynhadledd Cymdeithas Ewropeaidd Gwybodaeth Iechyd a Llyfrgelloedd (EAHIL) ar yr 11 Gorffennaf yng Nghaerdydd.

Bydd y ddarlledwraig Beti George yn y lansiad yn siarad am ei phrofiad yn gofalu am ei diweddar bartner, David Parry-Jones
Cafodd Darllen yn Well ei ddatblygu wedi llwyddiant menter debyg yn Lloegr ac i gefnogi cynllun gweithredu ar gyfer dementia Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd: "Mae cynllun gweithredu ar gyfer dementia Llywodraeth Cymru'n amlinellu ein blaenoriaethau o ran gweithredu i gyflawni cenedl ddementia-gyfeillgar a chaiff ei gefnogi gan fuddsoddiad ychwanegol o £10m."
"Bydd y cynllun Darllen yn Well yn helpu pobl i ddeall a rheoli eu hiechyd a'u llesiant eu hunain gan ddefnyddio ymyraethau hunangymorth."
"Mae ein cynllun gweithredu dementia hefyd yn cydnabod pa mor bwysig yw hi fod pobl yn derbyn gofal a chefnogaeth yn eu dewis iaith, felly mae'n bwysig iawn bod y llyfrau hyn hefyd ar gael yn y Gymraeg."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2017