Wythnos o rybudd cyn cau cartref gofal ger Caernarfon

  • Cyhoeddwyd
Cartref nyrsioFfynhonnell y llun, Google

Mae staff a thrigolion cartref gofal yng Ngwynedd wedi dweud eu bod mewn sioc ar ôl cael gwybod y bydd y ganolfan yn cau ymhen wythnos.

Fe gyhoeddodd perchnogion y cartref preifat ym Mhenisarwaun ger Caernarfon y byddan nhw'n cau wedi iddyn nhw fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Mae gan y cartref 20 o drigolion ar hyn o bryd, ond dywedodd y perchnogion nad oedd ganddyn nhw ddewis ond cau'r drysau.

"Roedden ni'n gwybod fod pryderon yma, roedd gan Arolygiaeth Gofal Cymru bryderon, ac roedd adroddiad diweddar wedi bod yn hynod feirniadol," meddai Gwyn Parry, sydd nawr yn gorfod canfod cartref newydd i'w fam.

"Ond i glywed dros y ffôn fod y cwmni wedi mynd i'r wal, roedd yn sioc enbyd."

'Morgais i'w dalu'

Ychwanegodd gwraig Mr Parry, Annette, ei bod yn poeni'n fawr am ei mam-yng-nghyfraith.

"Rydw i wir yn poeni am fy mam-yng-nghyfraith yn symud i gartref arall, achos roedd hi mor sâl yr wythnos ddiwethaf bu'n rhaid i'r doctor ei gweld tair gwaith," meddai.

"Mae wedi bod yn gyfnod pryderus iawn i Gwyn a finnau."

Y gred yw bod tua 20 o staff yn gweithio yn y cartref, a'u bod hwythau hefyd wedi'u syfrdanu â'r newyddion.

Mae Jean Jones wedi gweithio yno ers wyth mlynedd, ac mae ei gŵr hefyd yn cael ei gyflogi yno.

"Rydyn ni'n colli dau gyflog. Mae gen i dal forgais i'w dalu, a phan fydd y lle yma'n cau, pwy fydd yn fy helpu i?" meddai.

"Nid jyst fi ydi o, mae pawb yn yr un sefyllfa. Mae gan rai tri neu bedwar o blant bach. O ble fyddan nhw'n cael yr arian i'w cynnal nhw a thalu'r morgais? Bydd o'n anodd."

Lleoliadau amgen

Dywedodd Kim Obler o Fforwm Gofal Cymru fod cartrefi gofal yn wynebu pwysau yn sgil diffyg cyllid a thrafferthion wrth recriwtio staff priodol.

"Mae nyrsys sydd wedi'u hyfforddi wedi bod yn broblem yn y sector ers pum, chwe mlynedd, a chael staff gofal hefyd," meddai.

"Weithiau maen nhw'n gallu cael mwy yn gweithio yn Lidl neu Tesco nac y gallen nhw gael mewn swydd gwerth chweil yn y sector ofal."

Ychwanegodd fod angen i Lywodraeth Cymru "edrych ar y ffordd mae pethau'n cael eu hariannu" er mwyn atal hyn rhag parhau i ddigwydd.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Chyngor Gwynedd: "Rydym wedi ein hysbysu gan gartref nyrsio preifat Penisarwaun y bydd y cartref yn cau yn fuan.

"Fel cyngor a bwrdd iechyd, ein blaenoriaeth ydy cefnogi a gwarchod iechyd a lles preswylwyr y cartref wrth i ni weithio gyda'r teuluoedd i adnabod lleoliadau amgen addas.

"Rydym yn gwneud popeth posib i gwrdd ag anghenion unigol pob un o'r preswylwyr ac rydym mewn cyswllt rheolaidd gyda'r teuluoedd i drafod y mater."