Poundworld i ddiswyddo 51 o staff yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Siop PoundworldFfynhonnell y llun, PA

Mae Poundworld wedi cyhoeddi y bydd 51 o staff yn colli eu swyddi yng Nghymru wrth iddyn nhw gau pedair siop.

Cyhoeddodd y cwmni ddydd Gwener eu bod yn bwriadu cau canghennau yng Nghaerdydd, Llanelli, Llantrisant a Merthyr Tudful, a hynny o fewn rhyw wythnos.

Roedden nhw eisoes wedi cyhoeddi y byddai eu siop yng Nghaerfyrddin yn cau, gyda naw aelod o staff yn cael eu diswyddo.

Fis diwethaf fe aeth Poundworld, oedd yn cyflogi tua 5,000 o bobl ar draws y DU ar y pryd, i ddwylo'r gweinyddwyr.

'Ddim yn bosib gwerthu'

Mae'r cyhoeddiad diweddaraf yn golygu y byddan nhw nawr yn cau 105 o'u siopau, a diswyddo dros 1,250 o'u gweithwyr, ym Mhrydain.

Dywedodd un o'r gweinyddwyr, Clare Boardman: "Rydym yn parhau i fod yn obeithiol y bydd modd gwerthu rhan, neu rannau, o'r busnes, ond dyw hi ddim wedi bod yn bosib gwerthu'r busnes yn ei chyfanrwydd.

"Hoffem ddiolch i'r holl weithwyr am eu cefnogaeth a'u hymrwymiad yn ystod y cyfnod anodd yma. Rydym yn diweddaru staff o'r datblygiadau fel maen nhw'n digwydd."

Fel y mae enw'r cwmni'n ei awgrymu, £1 yw pris mwyafrif helaeth y nwyddau sy'n cael eu gwerthu yn ei siopau.

Mae'n masnachu dan frandiau Poundworld, Poundworld Plus neu Bargain Buys.