Pobl hŷn yn dioddef oherwydd oedi wrth deithio i ysbytai
- Cyhoeddwyd
Mae pobl hŷn yn dioddef poen meddwl oherwydd oedi wrth deithio i apwyntiadau ysbyty yn ôl elusen.
Dywedodd Age Cymru fod cleifion sydd ddim yn rai brys, yn dioddef oedi hir a siwrneiau hir, ac mewn rhai achosion yn cael eu hannog i beidio â gwneud apwyntiadau o gwbl.
Ar ôl dioddef oedi ar nifer o achlysuron, mae Phyllis Preece, 80 oed o Gaerdydd nawr yn talu am dacsi i fynd i apwyntiadau.
Yn ôl Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru maen nhw'n gweithio i wella'r gwasanaeth.
Yr Ymddiriedolaeth sy'n darparu'r rhan fwyaf o drafnidiaeth ar gyfer cleifion sydd ddim yn rai brys, gan gario tua 2,500 o gleifion bob dydd i glinigau, ysbytai a chanolfannau dydd.
Dechreuodd Mrs Preece ddefnyddio'r gwasanaeth ar ôl i'w gwr farw.
"Deufis yn ôl ro'n ni yn barod am 7:30yb. Am ddeg munud i naw - wnaeth neb droi i fyny," dywedodd wrth raglen BBC Cymru Sunday Politics Wales.
"Roedd fy apwyntiad am ddeg ugain munud wedi deg. Roeddwn ni yn dal i ffonio'r gwasanaeth ambiwlans a'r ysbyty i esbonio pam o ni'n hwyr."
"Fe ddaethon nhw am ddeg munud i hanner dydd. Ac roeddwn ni yn meddwl y bydden ni yn mynd yn syth i'r ysbyty."
"Ond roedd yn rhaid iddyn nhw bigo rhywun arall i fyny. A phan gyrhaeddon ni ei thŷ hi, fe arhoson ni ddeg munud cyn i ni ddarganfod ei bod hi wedi mynd mewn tacsi oherwydd eu bod nhw yn hwyr."
Sefyllfa bryderus
Dywedodd Prif Weithredwr Age Cymru, Victoria Lloyd fod y sefyllfa yn achosi "pryder i bobl, yn enwedig pobl sydd yn dioddef o broblemau dal dŵr."
"Fe fydde ni yn gobeithio gweld gwelliant yn y systemau archebu er mwyn rhoi'r claf wrth wraidd y system drafnidiaeth, fel bod yr amser sy'n cael ei gymryd i gludo'r cleifion yn deg, eu bod nhw yn mynd i ble sydd angen yn sydyn, ac fel nad ydyn nhw yn poeni ac mewn mwy o boen."
Yn ôl Nick Smith o'r Gwasanaeth Ambiwlans mae arolygon cleifion yn dangos fod y rhan fwyaf yn cael profiad da ar y cyfan gyda'r gwasanaeth.
Ond dywedodd fod na waith yn cael ei wneud i wella mynediad i'r gwasanaeth a bod mwy o wybodaeth am sut mae'n gweithio.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae disgwyl i Wasanaeth Ambiwlans Cymru a'r Pwyllgor Gwasanaeth Ambiwlans Brys wneud mwy o welliannau."
"Rydym ni hefyd yn datblygu fframwaith newydd ar gyfer cludiant sydd ddim ar frys er mwyn i'r cleifion weld gwelliant."
Sunday Politics Wales, BBC One Wales Dydd Sul, 15 Gorffennaf - 11:00
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2017