Awgrymu cynyddu treth i dalu am ofal cymdeithasol

  • Cyhoeddwyd
GofalFfynhonnell y llun, Getty Images

Wrth gynyddu treth incwm rhwng 1% a 3%, byddai modd creu cronfa newydd i warchod gofal cymdeithasol i'r henoed, yn ôl adroddiad newydd sydd wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru.

Yn ôl gwaith ymchwil gan yr economegydd, yr Athro Gerald Holtham, byddai'r cynnydd yn ddibynnol ar oedran ac incwm er mwyn sicrhau tegwch, gyda phobl yn eu 50au yn talu pedair gwaith yn fwy o'r dreth na'r rhai yn eu 20au.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn croesawu'r adroddiad, ac y byddai'r "gwaith yn parhau o ystyried pob opsiwn ar ariannu gofal cymdeithasol yn y dyfodol".

Mae'r adroddiad yn edrych ar sut i ariannu gofal cymdeithasol, nid y gwasanaethau fyddai'n cael eu cynnig - Llywodraeth Cymru fyddai'n penderfynu hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Athro Holtham bod dadl o blaid "codi cyfraddau treth sy'n gysylltiedig ag oedran yn ogystal ag incwm"

Dywedodd yr Athro Holtham y byddai mwy o alw am ofal cymdeithasol dros y blynyddoedd nesa wrth i'r boblogaeth heneiddio, ond bod angen osgoi gorbwyso'n ariannol ar y genhedlaeth iau.

"Mae'r cynnydd sylweddol mewn prisiau tai a chostau addysg uwch wedi gadael y genhedlaeth iau mewn sefyllfa waeth na chenedlaethau blaenorol," meddai.

"Mae yna ddadl felly i godi cyfraddau treth sy'n gysylltiedig ag oedran yn ogystal ag incwm."

Gwarchod cyllid

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod angen gwarchod y cyllid ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yn benodol, gan fod y cyhoedd yn fwy parod i dalu mwy o drethi pan maen nhw'n gwybod yn union ble mae eu harian yn mynd.

Mewn datblygiad ar wahân, dywedodd pwyllgor o aelodau seneddol yn San Steffan ddydd Mercher bod angen cyflwyno treth newydd i bobl dros 40 oed yn Lloegr i helpu talu am ofal yr henoed fel rhan o gynlluniau i ail drefnu gwasanaethau cymdeithasol yno.

Gall cynghorau godi tâl am ofal mewn cartref, cartref nyrsio neu ofal yn y cartref.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn ôl Llywodraeth Cymru, ar hyn o bryd mae awdurdodau lleol yn talu dros £550m bob blwyddyn ar gyfer gofal cymdeithasol yr henoed, ond mae ymchwil gan felin drafod Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025 yn rhagweld y bydd gwariant cynghorau Cymru ar wasanaethau i'r rhai sydd dros 65 oed yn cynyddu 18% dros y degawd nesaf er mwyn cynnal y gwariant presennol.

O dan argymhellion yr adroddiad byddai trethdalwyr yn cyfrannu at gronfa fyddai'n cael ei sefydlu'n benodol ar gyfer gofal cymdeithasol.

Byddai'r gronfa yn diwallu'r angen yn syth ac yn sicrhau bod digon o arian ar gyfer unrhyw gynnydd yn y galw yn y dyfodol.

Yr Adran Cyllid a Thollau fyddai'n ei gweinyddu gan na fyddai Llywodraeth Cymru yn gallu gwneud y gwaith ar hyn o bryd.

Yn ogystal, gan ei bod hi'n gronfa gyfrannol byddai'n rhaid cadw llygaid ar bobl sy'n symud i mewn neu allan o Gymru er mwyn nodi pwy fyddai'n cael mynediad at wasanaethau.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn croesawu'r adroddiad, a bod "y gwaith yn parhau i ystyried yr holl opsiynau i gefnogi ariannu gofal cymdeithasol yn y dyfodol".