Undeb o blaid newid rheolau ethol arweinydd Llafur
- Cyhoeddwyd
Mae undeb mwyaf Cymru wedi dweud y dylai aelodau Llafur Cymru i gyd gael pleidlais gyfartal wrth ddewis eu harweinydd newydd.
Mae'r blaid ar hyn o bryd yn adolygu'r rheolau y byddan nhw'n eu defnyddio i ethol olynydd Carwyn Jones.
Bu ffrae'r llynedd wedi i benaethiaid Llafur Cymru benderfynu cadw'r coleg etholiadol, sy'n rhoi pwyslais gwahanol ar bleidleisiau gwleidyddion etholedig, undebau llafur, ac aelodau cyffredin.
Mae Unite nawr wedi galw ar y blaid i ddefnyddio system un-aelod-un-bleidlais, yr un system gafodd ei defnyddio i ethol Jeremy Corbyn yn arweinydd y blaid ar draws y DU.
Cynhadledd arbennig
Mae Mr Jones wedi dweud y bydd yn gadael fel prif weinidog ac arweinydd y blaid cyn diwedd y flwyddyn.
Ar hyn o bryd mae pedwar Aelod Cynulliad wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu sefyll yn y ras i'w olynu - Mark Drakeford, Vaughan Gething, Huw Irranca-Davies ac Eluned Morgan.
Mr Drakeford yw'r unig ymgeisydd hyd yn hyn sydd wedi denu digon i gefnogaeth gan ACau eraill, gan gynnwys y gweinidogion Ken Skates a Lesley Griffiths.
Cyn hynny, mae'n rhaid i Lafur Cymru benderfynu dan ba reolau y byddan nhw'n cynnal yr ornest.
Bydd cynhadledd arbennig ym mis Medi yn penderfynu a fyddan nhw'n cadw'r coleg etholiadol presennol, neu symud tuag at un-aelod-un-bleidlais.
Mae ymgyrchwyr wedi dweud bod angen newid rheolau'r ras, fel bod pob pleidlais yn cael ei chyfrif yn gyfartal.
Ond mae'r rheiny sydd o blaid y system bresennol yn dweud ei fod yn adlewyrchu cyswllt hanesyddol y blaid â'r undebau llafur.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2018