Ystyried gwaredu bagiau sbwriel du ym Mhen-y-bont ar Ogwr

  • Cyhoeddwyd
Gwastraff ar stryd y Capel, Pen y BontFfynhonnell y llun, Freya Bletsoe

Mae'n bosib na fydd bagiau sbwriel du i'w gweld ar balmentydd yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn fuan os yw'r cyngor yn bwrw ymlaen â'r bwriad i fod yn ddi-blastig.

Er mwyn gwireddu'r bwriad mae'r cyngor yn dweud y bydd yn rhaid cael gwared ar fagiau bin du a gosod biniau olwyn yn eu lle.

Mae adroddiad i'r cyngor yn dweud y bydd y newid yn costio £1m.

Ymhlith cynigion eraill mae:

  • Gofyn i fusnesau ddefnyddio cardfwrdd neu gynwysyddion plastig wedi eu hailgylchu yn lle polysteren;

  • Annog pob bar a lle bwyta i gynnig cyfleusterau llenwi poteli dŵr;

  • Gofyn i staff sy'n cyfrif pleidleisiau ar noson etholiad i ddod â'u mygiau eu hunain neu gofyn iddynt brynu mwg gyda'r elw yn mynd at elusen.

Yn ôl adroddiad i bwyllgor o'r cyngor, mae 2,109 tunnell o blastig yn cael ei ailgylchu o gasgliadau sbwriel ochr stryd ym Mhen-y-bont bob blwyddyn.

Mae 1,197 tunnell, gan gynnwys teganau plant a dodrefn gardd, yn cael eu gadael mewn tomen sbwriel ac mae'r rheiny hefyd yn cael eu hailgylchu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Pen-y-bont yn ystyried mynd yn ddi-blastig

Llynedd roedd yna newid i gasglu sbwriel ym Mhen-y-bont wedi i'r cyngor ddweud na allai tai â llai na phump o bobl yn byw ynddynt waredu mwy na dau fag o sbwriel (nad oedd modd ei ailgylchu) bob pythefnos.

Achosodd y newidiadau dadleuol nifer o gwynion.

Ond fe ddywedodd yr awdurdod bod y cynllun, sy'n cael ei redeg gan gwmni Kier, wedi arwain at gynnydd sylweddol mewn ailgylchu - o 58% yn 2016/17 i 68.5% yn 2017/18.

Mae'r cyngor yn dweud bod yn rhaid gwneud newidiadau pellach os ydynt am fod yn gwbl ddi-blastig.

Mae cynghorau eraill hefyd yn ystyried bod yn gwbl ddi-blastig wedi i raglen deledu Blue Planet II ddangos effaith llygredd plastig ar gefnforoedd.

Ddydd Mawrth bydd Cyngor Casnewydd yn ystyried a ddylent annog busnesau i ddefnyddio bagiau papur a gwahardd y defnydd o gyllyll a ffyrc plastig.