'Bygythiadau' wrth wraidd ymddiswyddiad Plaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
Nigel Copner
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd cyn-drysorydd Plaid Cymru, Nigel Copner, bod y blaid angen newid os am gipio grym yng Nghymru

Mae trysorydd Plaid Cymru wedi ymddiswyddo o'i rôl gan honni iddo dderbyn bygythiadau gan aelodau o dîm Leanne Wood.

Mae Nigel Copner yn aelod o'r blaid ym Mlaenau Gwent, a daeth y bygythiadau honedig ar ôl i'r gangen ddatgan eu cefnogaeth i ymgyrch Rhun ap Iorwerth i arwain y blaid.

Yn ôl Mr Copner dywedodd tîm Ms Wood wrthyn nhw am "anghofio am unrhyw gymorth" yn y dyfodol.

Dywedodd llefarydd ar ran Ms Wood nad oedd hi'n cydnabod y sylwadau.

Roedd y llefarydd hefyd yn gwadu eu bod wedi derbyn unrhyw gwynion am honiadau o'r fath.

Disgrifiad o’r llun,

Nid oedd Ms Wood yn adnabod y sylwadau, yn ôl llefarydd ar ei rhan

Yn yr e-bost lle ymddiswyddodd Mr Copner fel trysorydd, dywedodd fod bygythiadau tebyg hefyd wedi digwydd ar "lefelau is".

"Rydw i wir yn coelio'r bygythiadau hefyd, gan ystyried digwyddiadau'r gorffennol," meddai.

Ymddygiad 'siomedig'

Mae'r e-bost, gafodd ei yrru i brif weithredwr y blaid Gareth Clubb, Ms Wood, cadeirydd y blaid Alun Ffred Jones, a'r arweinydd seneddol Liz Saville Roberts, hefyd yn cynnwys beirniadaeth ehangach o'r blaid.

Soniodd Mr Copner am "weithdrefnau aneffeithiol o fewn y blaid" gan ddweud bod angen "sortio'i hun allan" os am fod ag unrhyw siawns o gipio pŵer.

Yn ogystal â dweud nad oedd yn adnabod sylwadau Mr Copner, ychwanegodd llefarydd ar ran Leanne Wood: "Fel y dywedon ni o'r dechrau, rydyn ni'n canolbwyntio ar gael ymgyrch arweinyddol bositif a buaswn yn annog unrhyw aelodau i fynd drwy'n dulliau priodol i wneud cwyn am gyd-aelodau."

Disgrifiad o’r llun,

Adam Price Rhun ap Iorwerth ydy'r ddau ymgeisydd arall i arwain Plaid Cymru

Dywedodd Mr ap Iorwerth, un o'r rhai sy'n herio Ms Wood am yr arweinyddiaeth, ei fod wedi "siomi" o glywed am ymddygiad o'r fath.

Ychwanegodd: "Ni fydd unrhyw sylwadau pellach gan fy mod i'n benderfynol o weld ymgyrch bositif sy'n canolbwyntio ar yr hyn fedrwn ei gynnig i'r blaid ac i Gymru, yn hytrach na beirniadu eraill."

Dywedodd Adam Price, sydd hefyd yn y ras ar gyfer yr arweinyddiaeth, ei fod yn "drist" i glywed am ymddiswyddiad Mr Copner.

Mae llefarydd ar ran Plaid Cymru wedi diolch i Mr Copner am ei waith dros y blaid, ond dweud nad ydyn nhw'n "cydnabod ei sylwadau" am weithdrefnau'r blaid.