Cynghorwyr Plaid Cymru'n cefnogi Leanne Wood

  • Cyhoeddwyd
Leanne Wood

Mae dros 50 o gynghorwyr Plaid Cymru wedi ysgrifennu at eu harweinydd, Leanne Wood, i ddatgan eu cefnogaeth iddi.

Mae gan aelodau o grŵp y blaid yn y Cynulliad tan 4 Gorffennaf i gynnig eu henwau ar gyfer herio'r arweinyddiaeth.

Yn unol â rheolau'r blaid, mae'r cyfle hwnnw'n codi bob dwy flynedd.

Mae rhai o aelodau blaenllaw Plaid Cymru, fel cyn-arweinydd y blaid yn San Steffan, Elfyn Llwyd, wedi awgrymu bod angen arweinydd newydd, ac mae tri Aelod Cynulliad - Llyr Gruffydd, Sian Gwenllian ac Elin Jones - wedi arwyddo llythyr yn galw am gynnal gornest.

Ond mewn llythyr sydd wedi ei weld gan BBC Cymru, mae dros 50 o gynghorwyr Plaid Cymru yn datgan cefnogaeth i'r arweinydd presennol.

Maen nhw'n diolch i Leanne Wood am ei gwaith "yn teithio ar hyd a lled Cymru yn hyrwyddo cenhadaeth ac egwyddorion Plaid Cymru".

Maen nhw hefyd yn dadlau mae ymgyrch etholiadau 2017 dan ei harweinyddiaeth "oedd y mwyaf llwyddiannus yn hanes Plaid Cymru."

Mae'r grŵp yn cynrychioli tua traean o gyfanswm cyngynhorwyr Plaid Cymru.