Unigrwydd mewn ardaloedd gwledig yn 'broblem gynyddol'
- Cyhoeddwyd
Mae angen taclo'r "broblem gynyddol" o unigrwydd yng nghymunedau gwledig Cymru, yn ôl y gweinidog gofal cymdeithasol.
Yn ystod ymweliad â'r Sioe Frenhinol, dywedodd Huw Irranca-Davies fod delio gyda'r broblem yn flaenoriaeth genedlaethol.
Fe wnaeth arolwg cenedlaethol yn 2016-17 awgrymu bod 17% o bobl yng Nghymru - tua 440,000 o bobl - yn teimlo'n unig.
Mae'r broblem yn gallu bod yn waeth mewn ardaloedd gwledig, ble mae cymunedau'n fwy ynysig ac yn bellach o wasanaethau cyhoeddus.
'Ffermio'n waith unig'
Mae bron i 20% o boblogaeth Cymru'n byw mewn cymunedau o lai na 1,500 o bobl.
Wrth siarad yn Llanelwedd ddydd Mawrth, bydd Mr Irranca-Davies yn trafod beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i leddfu unigrwydd mewn cymunedau gwledig.
"Mae unigrwydd yn broblem gynyddol mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru," meddai.
"Mae'n effeithio ar bawb - person ifanc neu berson hŷn, ffermwr neu feddyg, person sengl neu berson priod, ac fe allai o bosib arwain at nifer o broblemau iechyd a gofal cymdeithasol difrifol.
"Rydyn ni eisiau sicrhau'n safon byw gorau posib i bobl ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys ein cymunedau ffermio a gwledig.
"Dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud taclo unigrwydd yn flaenoriaeth genedlaethol."
Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Materion Gwledig, Lesley Griffiths fod oriau a natur gwaith ffermwyr yn golygu eu bod yn aml yn gweithio ar eu pen eu hunain a bod "prinder cyfleoedd i ymwneud gyda phobl eraill".
"Mae pwysau ychwanegol megis rhedeg busnes, afiechydon mewn anifeiliaid, a'r ansicrwydd sydd yn dod o Brexit, hefyd yn gallu ychwanegu at deimladau o unigrwydd ac anobaith," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2017
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2018