Sut i gyrraedd yr Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
Mae trefnwyr yn annog Eisteddfodwyr i ddefnyddio bysiau a threnau neu i gerdded a beicio i gyrraedd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd.
Bydd yna wasanaeth parcio a theithio di-dâl o Lecwydd yn ystod yr wythnos waith rhwng 7:00 a 00:00, a gwasanaeth bws gwennol rheolaidd rhwng y Bae a'r maes carafanau ar dir Caeau Pontcanna.
£10 fydd cost gadael car ym maes parcio Lecwydd neu ym maes parcio Neuadd y Sir, Cyngor Dinas Caerdydd, fydd ar agor i Eisteddfodwyr ar y penwythnosau yn unig.
Ond mae'r pris yn gostwng i £8 i'r rhai sy'n archebu lle o flaen llaw ar-lein.
Dywed y trefnwyr fod "dewis helaeth o drafnidiaeth gyhoeddus hygyrch ar draws Caerdydd ynghyd â llwybr beicio a cherdded Taith Taf sy'n cysylltu'r Bae gyda'r ddinas".
Mae'r rhain yn cynnwys:
Gwasanaeth llogi beiciau Pedal Power - sydd â chanolfannau'n agos at y maes carafanau ym Mhontcanna - a chynllun rhannu beiciau Caerdydd;
Trenau rheolaidd rhwng gorsaf Heol y Frenhines yng nghanol y ddinas a gorsaf drenau Bae Caerdydd;
Gwasanaeth fysiau'r brifddinas.
Gwybodaeth parcio
Bydd amryw o feysydd parcio cyhoeddus Bae Caerdydd ar agor drwy wythnos y Brifwyl, ac mae nifer o lefydd parcio anabl ymhob un ond does dim modd gwarantu lle ar gyfer Eisteddfodwyr.
I sicrhau lle parcio anabl, y cyngor yw i archebu tocynnau parcio ymlaen llaw ym maes parcio aml-lawr Qpark gyferbyn â Chanolfan y Mileniwm.
Bydd maes parcio Neuadd y Sir - sydd â llefydd parcio anabl - yn agor am 18:00 ar 3 Awst ar gyfer cyngerdd agoriadol y Brifwyl.
Bydd maes parcio Lecwydd yn agor am 06:30 ac yn cau am 00:30.
Bydd y daith rhwng Lecwydd a'r Maes yn cymryd 10-15 munud, a theithwyr yn cael eu gollwng yn Ffordd Hemingway ger Neuadd y Sir, sydd tua 2-3 munud o'r Maes. Mae lloriau isel ar y bysiau i gyd.
Maes Carafanau a Maes B
Bydd bysiau gwennol o'r maes carafanau yn rhedeg o 15:00 ddydd Gwener 3 Awst ar gyfer y cyngerdd agoriadol, gyda'r bws olaf yn gadael y Bae am 01:00.
O ddydd Sadwrn tan ddydd Mawrth, bydd y bws cyntaf yn gadael y maes carafanau am 07:00 a'r bws olaf yn dychwelyd yno am 01:00. Bydd y gwasanaeth yn cael ei ymestyn tan 03:00 o nos Fercher tan y nos Sadwrn olaf, er mwyn gwasanaethu Maes B.
Mae modd i garafanwyr archebu tocyn wythnos ar gyfer y bws ar-lein.
Bydd amserlen debyg yn achos y gwasanaeth bysiau o'r maes pebyll - ar dir Ysgol Uwchradd Fitzalan - ar gyfer Maes B, sydd yn hen adeilad Profiad Doctor Who ym Mae Caerdydd.
Dylai ymwelwyr anabl sydd angen rhentu sgwter neu gadair olwyn yn ystod yr wythnos gysylltu gyda chwmni Byw Bywyd ymlaen llaw er mwyn sicrhau argaeledd.
Mae stondin Byw Bywyd yng Nghanolfan Red Dragon, gyferbyn â Chanolfan Mileniwm Cymru.
Mae'r manylion llawn i deithwyr ar wefan yr Eisteddfod, dolen allanol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd8 Mai 2018
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2018