Cyrraedd nod ariannol Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Steddfod

Lai na mis cyn i'r Eisteddfod Genedlaethol ymweld â Chaerdydd, mae trefnwyr y Brifwyl wedi cyhoeddi fod y gronfa leol wedi cyrraedd ei nod ariannol.

Roedd targed o £320,000 wedi ei osod yn lleol ar gyfer yr Eisteddfod, fydd yn cael ei chynnal yn y Bae rhwng 3 a 11 Awst.

Mewn neges Twitter ddydd Mercher, diolchodd yr Eisteddfod i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r codi arian.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Eisteddfod

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Eisteddfod

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor gwaith, Ashok Ahir, fod cyrraedd y nod "yn deyrnged i'r gwirfoddolwyr sydd wedi gweithio'n galed dros gyfnod o bron i ddwy flynedd er mwyn sicrhau llwyddiant yr ŵyl".

"Dyw codi arian byth yn hawdd, ac mae'r hinsawdd economaidd yn parhau'n anodd," meddai.

"Ond mae'r tîm wedi dyfalbarhau ac wedi meddwl am ffyrdd newydd o godi arian - o redeg rasys i ddringo mynyddoedd, ac o drefnu teithiau tywys hanesyddol i werthu siampên a chynhyrchu mapiau."

Fe fydd y Brifwyl eleni'n wahanol, wrth iddi gefnu ar y maes traddodiadol am y tro.

Bydd eisteddfodwyr yn talu am fandiau garddwrn i fynd i ddigwyddiadau yn y Pafiliwn yn Theatr Donald Gordon ac yn yr is-bafiliynau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y prif gystadlu a llawer o'r cyngherddau yn cael eu cynnal yng Nghanolfan y Mileniwm

Fydd dim angen prynu'r bandiau er mwyn crwydro maes Bae Caerdydd na chael mynediad i'r adeiladau y tu allan i Ganolfan y Mileniwm fel Y Lle Celf, Tŷ Gwerin, Caffi Maes B a Llwyfan y Maes.

"Mae llai na mis i fynd erbyn hyn, a'r hyn sydd angen i ni ei wneud dros yr wythnosau nesaf yw annog cymaint o bobl â phosibl i ddod i grwydro'r Maes yn ystod yr wythnos," meddai Mr Ahir.

"Rydw i'n awyddus iawn i ni annog pobl nad ydyn nhw wedi ymweld â'r Eisteddfod o'r blaen - y gynulleidfa anghyfarwydd a newydd i ddod i gael blas ar yr ŵyl, ac i weld beth sydd gan yr Eisteddfod, y Gymraeg a'n diwylliant i'w gynnig."