Arestio dyn wedi darganfod sylwedd 'amheus' Castell Penfro

  • Cyhoeddwyd
Injan Dân ym MhenfroFfynhonnell y llun, Martin Cavaney

Mae dyn 64 oed wedi ei arestio ar ôl i'r heddlu gael eu galw i ymchwilio i "sylweddau" gafodd eu gadael mewn poteli yng Nghastell Penfro.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i bum digwyddiad yn y castell dros y mis diwethaf, ac maen nhw'n dweud bod cysylltiad.

Roedd y castell ynghau am 24 awr fis diwethaf yn dilyn pryder am sylwedd amheus, er i brofion ddangos nad oedd y botel yn cynnwys sylwedd niweidiol.

Dywedodd yr heddlu bod y digwyddiadau'n cael eu trin fel rhai ffug, a bod y dyn wedi ei arestio am achosi niwsans i'r cyhoedd.