Galw ar AS Llafur i 'gamu o'r neilltu a chlirio'i henw'
- Cyhoeddwyd
Mae AS o Gymru yn wynebu pwysau i roi gorau i'w swydd ar fainc flaen Llafur yn San Steffan fel llefarydd y blaid ar gydraddoldeb.
Dywedodd yr AC Llafur, Jenny Rathbone y dylai dirprwy arweinydd Llafur Cymru, Carolyn Harris gamu o'r neilltu er mwyn "clirio'i henw".
Mae'r BBC yn deall bod arweinwyr Llafur, Jeremy Corbyn, a Llafur Cymru, Carwyn Jones yn cefnogi Ms Harris.
Clywodd achos yn Llys y Goron Caerdydd fis diwethaf fod Ms Harris wedi disgrifio esgidiau ei chyn-reolwr swyddfa, Jenny Clarke, fel rhai "dyke" - term dirmygus am lesbiad.
Cafodd Ms Clarke ei chanfod yn ddieuog o dwyll yn yr achos.
'Ddim yn ok'
Dywedodd Hannah Blythyn, Gweinidog Amgylchedd Llywodraeth Cymru, ei bod wedi "siomi a thristáu" o glywed yr honiadau bod Ms Harris wedi defnyddio iaith homoffobaidd.
Ychwanegodd fod y sylwadau honedig gan AS Dwyrain Abertawe yn "amhriodol...dydyn nhw ddim yn ok".
Yn ystod yr achos dywedodd Ms Harris nad oedd hi'n cofio defnyddio'r gair, ond petai hi wedi, mai dim ond "cellwair swyddfa" ydoedd.
Dywedodd Ms Blythyn ar Twitter: "Dyw hynny byth yn gellwair - mae'n iaith homoffobaidd."
Mae sawl ACau Llafur arall gan gynnwys Ken Skates, Lesley Griffiths, Joyce Watson a Hefin David hefyd wedi aildrydar neges Ms Blythyn.
Mae BBC Cymru yn deall fodd bynnag bod Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones ac arweinydd Llafur y DU Jeremy Corbyn yn gefnogol o Ms Harris - er nad yw Llafur Cymru na Llafur y DU wedi gwneud datganiad swyddogol.
Dywedodd llefarydd ar ran Mr Jones: "Mae geiriau'n bwysig - a does dim lle o fewn Llafur Cymru i iaith sy'n pechu neu'n gwthio pobl i'r cyrion.
"Mae Carwyn wedi siarad â Carolyn heddiw, ac yn dweud mai ymddiheuro'n ddiamod oedd y peth cywir i'w wneud."
Ar BBC Radio Wales fore Gwener dywedodd Ms Rathbone, sy'n aelod o bwyllgor cydraddoldeb y Cynulliad, y dylai Ms Harris gamu o'r neilltu fel gweinidog cysgodol Llafur ar gydraddoldeb yn San Steffan, er mwyn "clirio'i henw".
"Pe byddai'r materion yma wedi dod i'r amlwg cyn yr etholiad [ar gyfer dirprwy arweinyddiaeth Llafur Cymru] rwy'n credu y byddai wedi cael effaith ar nifer o bobl a bleidleisiodd dros Ms Harris," meddai AC Llafur Canol Caerdydd.
"Rwy'n siŵr y bydd yna ryw fath o ymchwiliad... mae'r mater yn debygol o gael ei gymryd ymhellach."
Gwaharddiad
Mae un o aelodau blaenllaw Llafur yn San Steffan, Jon Lansman, hefyd wedi dweud na ddylai Ms Harris barhau yn aelod o fainc flaen y blaid pan mae hi wedi ei "chyhuddo mewn llys agored gyda thystiolaeth gan ei chyn-AS a'i chyflogwr o sarhau homoffobig".
"Dwi'n meddwl bod angen iddi gael ei hatal o'i rôl bresennol fel llefarydd cydraddoldeb," meddai Mr Lansman, sy'n aelod o bwyllgor gweithredol cenedlaethol y blaid.
Ychwanegodd y dylai Llafur hefyd gynnal ymchwiliad i ymosodiad honedig gan Ms Harris ar Ms Clarke, rhywbeth wnaeth hefyd godi yn ystod yr achos llys.
Yn ogystal â galw am wahardd Ms Harris o'i swydd ar y fainc flaen dywedodd Mr Lansman y Carwyn Jones hefyd ystyried safle AS Dwyrain Abertawe fel y dirprwy arweinydd yng Nghymru.
Ond mae'r Cwnselydd Cyffredinol Jeremy Miles wedi amddiffyn Ms Harris, gan awgrymu bod pawb wedi dweud pethau yn y gorffennol allai gael eu beirniadu.
"Mae defnyddio iaith ddifrïol, hyd yn oed os 'dych chi ddim yn bwriadu pechu, yn annerbyniol," meddai AC Llafur Castell-nedd ar Twitter.
"Mae diystyru hynny fel 'cellwair' pan 'dych chi'n cael eich cyhuddo hefyd yn anghywir. Os 'dych chi'n gwneud hynny mewn bywyd cyhoeddus, mae'n gosod esiampl wael iawn ac mae angen ymddiheuriad cyhoeddus diamod.
"Ond os ydyn ni wir eisiau hyrwyddo cydraddoldeb, dylen ni edrych ar ymddygiad rhywun yn ei gyfanrwydd - ac o brofiad personol, rydw i wastad wedi gweld Carolyn Harris fel ffrind da i'r gymuned LHDT."
'Iaith drwsgl'
Gwrthododd Ms Harris fynd ar raglen Good Morning Wales fore Gwener, ond fe anfonodd ddatganiad yn dweud: "Yn ystod yr achos fe gafodd honiadau eu gwneud am fy ymddygiad yn y cyfnod pan fuodd Jenny a minnau'n gweithio i Sian James AS.
"Honnwyd i mi wneud sylw homoffobig tuag at Jenny. Dydw i wir ddim yn cofio dweud hynny, ac fe wnaeth clywed yr honiad yn y llys fy nharo i'r byw.
"Wrth geisio ateb yn onest fe ddywedais mai 'cellwair yn unig' fyddai hynny... roedd iaith drwsgl yr ateb yn gwneud iddi ymddangos fel fy mod yn ceisio bychanu'r mater.
"Rwy'n deall bod 'cellwair' yn air cwbl amhriodol - yn wir, tramgwyddus - i'w ddefnyddio, ac yn air sydd wedi cael ei ddefnyddio i gyfiawnhau enllib homoffobaidd ers tro. Rwy'n ymddiheuro yn llawn a diamwys am ei ddefnyddio."
Ychwanegodd ei bod yn gobeithio bod ei gweithredoedd i gefnogi'r gymuned LHDT dros y blynyddoedd diweddar, ac fel AS yn y dyfodol, yn lliniaru unrhyw niwed.
Mewn datganiad byr dywedodd yr elusen LHDT, Stonewall: "Mae iaith yn bwysig iawn ac rydyn ni'n falch bod Carolyn Harris yn cydnabod hyn, achos mae beth mae rhai pobl yn ei ystyried fel 'cellwair' yn gallu cael effaith negyddol a hir dymor."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2018