Pryder am danau ar safloedd hynafol y gorllewin

  • Cyhoeddwyd
Tan

Mae'n bosib fod safleoedd hynafol yn y gorllewin yn cael eu difrodi gan grwpiau o bobl sy'n cynnal defodau neu seremoni gyda choelcerthi, yn ôl yr heddlu.

Oherwydd pryder am ragor o ddifrod, dywed yr heddlu y bydd uned cefn gwlad newydd yn cadw llygad ar safleoedd penodol.

Dywed Heddlu Dyfed-Powys fod safle Gors Fawr, ger Mynachlog-ddu, yng ngogledd Sir Benfro wedi ei ddifrodi gan dân yn ddiweddar.

Maen nhw'n ymchwilio i achos o gynnau tân yn fwriadol ac o ddifrod i safle dreftadaeth.

Y gred yw bod y difrod ar safle Gors Fawr wedi ei achosi yn ystod gŵyl i ddathlu'r cyfnod rhwng Calan Mai a heuldro, gyda choelcerthi yn cael eu cynnau.

Mae'r heddlu hefyd yn pryderu am ragor o danau.

Rhybudd
Cerrig

Mae'r penwythnos yma yn nodi union hanner ffordd rhwng diwrnod hiraf y flwyddyn, 21 Mehefin, a chyhydnos y Gaeaf, 22-23 Medi, gyda'r heddlu yn poeni y bydd rhai pobl am ddathlu.

"Fe fydd yr heddlu ar ddyletswydd yn ardal Gors Fawr, ynghyd â safleoedd hynafol eraill yng Ngheredigion a Sir Benfro, i rwystro rhagor o ddifrod," meddai'r Cwnstabl Esther Davies o Dîm Troseddau Gwledig Ceredigion.

"Mae arwyddion wedi eu gosod yn rhybuddio pobl i beidio cynnau tanau yn yr ardal.

"Gyda chyfnod hir o dywydd sych diweddar, mae perygl y gallai tanau ledu yn hawdd gan achosi difrod eang i'r ardal ac i fywyd gwyllt."