Trethdalwyr wedi 'cael cam' gan CNC yn ôl Aelod Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
Lee Waters
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lee Waters, AC Llanelli, wedi beirniadu Cyfoeth Naturiol Cymru am werthu coed am lai na phris y farchnad

Mae trethdalwyr wedi "cael cam" gan gwango mwyaf Cymru wedi iddynt werthu coed am lai na phris y farchnad, yn ôl AC Llafur, Lee Waters.

Mae manylion newydd wedi datgelu mwy am fethiannau cyson Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i dendro coed wedi eu tyfu ar goetir cyhoeddus.

Yn ôl swyddogion, byddai wedi bod yn bosib i CNC wneud £1m yn fwy petaent wedi gwerthu'r coed ar y farchnad agored.

Mae CNC bellach yn bwriadu cynnal arolwg annibynnol i'r mater.

'Canfyddiadau difrifol'

Mae adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru wedi amlygu'r hyn ddigwyddodd wedi i gytundeb 10 mlynedd CNC gyda BSW Timber ddod i ben.

Roedd y fenter wedi methu cyflawni eu rhan nhw o'r cytundeb, oedd werth £39m i CNC, gan arwain at ddiwedd y cytundeb ym mis Mawrth 2017.

Ni chafodd y ddêl ei thendro, ac fe gafodd hynny ei feirniadu'n hallt gan y cyn-archwilydd cyffredinol, Huw Vaughan-Thomas.

Fodd bynnag, derbyniodd y cwmni ac is-gwmni arall gytundebau pellach, eto cyn mynd ati i werthu'r coed ar y farchnad agored.

Yn y ddwy achos, nid oedd yr archwilydd wedi gallu datgan bod y cytundebau yn gyfreithlon.

Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r trydydd tro i'r archwilydd cyffredinol Huw Vaughan-Thomas leisio pryderon am allu CNC i reoli gwerthiant coed

Mae'r adroddiad gan Mr Vaughan-Thomas yn dangos bod CNC o'r farn eu bod yn ennill £1m yn llai na'r cytundeb gwreiddiol yn 2014, i gymharu â'r pris y byddent wedi ei dderbyn petaent wedi tendro.

Cafodd y cytundeb rhwng CNC a BSW Timber ei ddiddymu wedi i BSW - sydd eisoes â melin llifio ym Mhowys - fethu adeiladu cyfarpar llifio a gafodd ei addo yn y cytundeb.

Cafodd 59 "cytundeb trosiannol" eu creu gyda thri chwmni - BSW Timber, is-gwmni a chwmni cynaeafu arall - gwerth £2.76m.

Dangosodd e-bost mewnol bod y cwango'n ymwybodol nad oedd prisiau cytundebau blaenorol yn ddelfrydol.

Ond roedd 17 o'r cytundebau newydd i'r cwmni cynaeafu yn gwerthu coed am yr un pris.

Yn ôl yr adroddiad, fe wnaeth CNC hefyd anwybyddu ei gyngor cyfreithiol ei hun, a oedd yn rhybuddio bod y cytundebau newydd yn peri problemau yn ôl rheolau cymorth gwladwriaethol yr EU.

Roedd asesiad Mr Vaughan-Thomas o'r cytundebau pren wedi ei arwain i godi pryderon am gyfrifon blynyddol CNC, a hynny am y trydydd tro.

Arweiniodd hynny hefyd at ymddiswyddiad cadeirydd CNC, Diane McCrea.

'Tu hwnt i reolaeth'

Dywedodd Lee Waters, AC Llanelli, bod CNC "yn amlwg yn fudiad sy'n rhedeg tu hwnt i unrhyw reolaeth" a'u bod yn ymddangos fel petaent "yn atebol i neb".

"Yn amlwg, mae'r trethdalwr wedi cael cam, ac mae'r diwydiant wedi cael eu hamddifadu o fuddion oedd eu hangen."

Dywedodd ei fod yn cwestiynu natur "agos" y berthynas rhwng CNC a BSW ac nad oedd ganddo hyder ym mwrdd CNC i drin y mater.

"Mae lle i gwestiynu natur y berthynas rhwng cyflenwr a chorff cyhoeddus fel hyn, a hwythau'n meddwl eu bod yn gallu ymddwyn fel hyn heb ganlyniadau."

Yn ôl Clare Pillman, Prif Weithredwr CNC: "Mae'r rhain yn ganfyddiadau difrifol ac rwy'n benderfynol o gyrraedd gwraidd y mater.

"Mae'n rhaid i ni ddysgu gwersi, ac rwyf wedi ymrwymo i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto, a dyna pam rwy'n bwriadu comisiynu arbenigwyr annibynnol i ymchwilio i'r mater a chynnig argymhellion ynglŷn â'r camau nesaf."

Ni ymatebodd CNC i sylwadau Mr Waters, a chafodd BSW hefyd gais am sylw.