Holiadur yn dangos cefnogaeth i ailagor lido Brynaman

  • Cyhoeddwyd
Lido BrynamanFfynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y pwll ei adeiladu yn yr 1920au, a'i ddefnyddio gan bobl yr ardal tan 2010

Mae yna ymateb "anhygoel" i gynlluniau i ailagor pwll nofio hanesyddol Brynaman, yn ôl Pwyllgor Lido Brynaman.

Cafodd y pwll nofio awyr agored ei gau wyth mlynedd yn ôl yn dilyn gaeaf o dywydd garw, ac mae grŵp o ymgyrchwyr lleol yn ceisio sicrhau'r arian i'w ail-wampio.

Mae dros 1,500 o bobl wedi ymateb i holiadur ar-lein sy'n casglu gwybodaeth am awydd pobl i weld y pwll yn ailagor.

Dywedodd Eleri Ware o'r pwyllgor bod "gymaint o gariad tuag at y pwll", gyda nifer o drigolion yr ardal wedi dysgu nofio yno.

"Mas o dros 1,500, dim ond tri person sydd wedi dweud nad y'n nhw moyn gweld y pwll yn ail agor," datgelodd.

"Felly mae pobl yn keen iawn, mae llawer o gefnogaeth 'da ni."

Cost o £170,000

Cafodd y lido ym Mrynaman ei agor yn yr 1920au, ac wedi 80 mlynedd o ddefnydd, cafodd ei ddifrodi gan dywydd garw yng ngaeaf 2010.

Roedd y bil gwreiddiol am atgyweirio'r difrod yn £20,000, ond wrth i gyflwr y pwll waethygu, cododd y gost i £170,000.

Roedd Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi datgan ar y pryd nad oeddent yn fodlon talu i drwsio'r pwll ac felly bu'n rhaid i'r gwirfoddolwyr oedd yn gyfrifol am y pwll ei gau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jason Rees ac Eleri Ware yn aelodau o Bwyllgor Lido Brynaman ac yn awyddus iawn i ailagor y pwll

Mae gan Jason Rees, sydd hefyd yn aelod o'r pwyllgor, atgofion melys o'r lido, gan ddweud bod nifer o blant yr ardal wedi dysgu nofio a "chael llawer o sbri" yno.

"O'n i yma yn aml yn y 1990au - yn yr haf pan oedd hi'n boeth o'n i'n cerdded lawr, fi a fy ffrindiau, a nofio."

Mae'r pwll wedi dirywio'n arw ers y dyddiau hynny.

Dywedod Mr Rees: "Mae'n bach o drueni rili, ond fi'n gallu gweld bod dal character 'na.

"Fi'n gwbod bod angen lot o waith, ond gyda phobl leol, gyda gwaith y pwyllgor, fi'n credu byddwn ni'n gallu cael e ar agor cyn dim."

'Ma' arian mas yna'

Er gwaethaf y brwdfrydedd y pwyllgor a'r ymateb cadarnhaol i'r holiadur, mae'r gost o atgyweirio'r pwll yn dal i godi, gyda Ms Ware yn dweud eu bod yn wynebu bil o "ryw £500,000" erbyn hyn.

"Chi'n gallu gweld beth mae'r lle fel, mae coed yn tyfu trwy'r ddaear.

"Gynta' gyd ni eisiau cael y pwll yn ôl o'r cyngor, a wedyn chwilio am grantiau, a 'falle cael gwaith wedi ei wneud am ddim.

"Os ti'n disgwyl ar byllau fel Pontypridd maen nhw wedi gwneud e, fi'n gwybod taw arian Ewropeaidd oedd hwnna, ond ma' arian mas yna, mae rhaid gwybod lle i chwilio amdano fe."