Ynys Bŷr: Mynach wedi rhoi ffilm cartref i ddioddefwr
- Cyhoeddwyd
Mae dyn gafodd ei gam-drin gan fynach ar Ynys Bŷr, yn Sir Benfro hanner can mlynedd yn ôl wedi datgelu bod y mynach wedi rhoi ffilm cartref iddo er mwyn iddo ei gofio.
Bellach yn ei 60au cynnar, mae'r dioddefwr wedi dangos y ffilm gafodd gan Thaddeus Kotik ddiwedd y 1960au i BBC Cymru.
Mae'n dangos y mynach, fu farw ym 1992, yn ymweld ag ardaloedd gan gynnwys Tyddewi a Dinbych-y-pysgod.
Mae'r Ymchwiliad Annibynnol i Achosion o Gamdrin Plant yn Rhywiol wedi dweud y gallai'r hyn ddigwyddodd ar Ynys Bŷr ffurfio rhan o'i ymchwil.
Datgelodd BBC Cymru ddydd Gwener bod Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i honiadau gan 20 o ddioddefwyr.
Mark - nid ei enw cywir - oedd y dioddefwr gwrywaidd cyntaf i siarad am ei brofiad yn gynharach eleni - merched sydd wedi rhannu eu profiadau'n flaenorol.
Mi dderbyniodd y ffilm pan oedd yn 10 neu'n 11 oed.
Ei gam-drin yn wyth oed
"Dywedodd Kotik wrthai: 'Mae hwn i ti - os wyt ti ishe atgoffa dy hun ohonai yn ystod misoedd oer y gaeaf'.
"Mae'n ffiaidd i feddwl amdano nawr."
Roedd Kotik wedi dod yn gyfaill i dad Mark wrth i'r teulu ymweld â'r ynys ar wyliau.
Roedden nhw hefyd yn dychwelyd yno tra bod ei dad yn gwneud peth gwaith cynnal a chadw yno.
Dywedodd Mark fod Kotik wedi treulio blynyddoedd yn ceisio ffurfio perthynas ag e cyn dechrau ei gam-drin yn wyth oed, ar sawl achlysur.
Mae'r Seicolegydd Clinigol, Dr Mair Edwards yn dweud bod angen cymorth ar ddioddefwyr i ddygymod â'r hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw.
Dywedodd: "Os oes gynnon ni blentyn sydd wedi cael un math o drawma a bod o wedi digwydd ar un achlysur lle mae'r teulu wedyn yn gallu cefnogi'r plentyn a ble mae'r plentyn wedyn yn teimlo bod nhw yn gallu siarad yn agored ac yn gallu trafod beth sydd wedi digwydd, yna fel arfer fasen i'n disgwyl gweld y plentyn hwnnw yn gallu dod drwy beth bynnag sydd wedi digwydd a bod o ddim y cael effaith tymor hir sydd yn aros ac yn creu problemau iddyn nhw.
"Ond mae 'na rhai achosion ble mae plant yn cael eu cam-drin o fewn sefydliad, neu o fewn cyd-destun, lle nad yw e ddim yn bosib iddyn nhw fod yn dweud wrth neb.
"Heb therapi, heb bobol yn dod i mewn i fod yn gallu cynnig y gwasanaeth therapiwtig ac emosiynol i brosesu hyn, mae'n gwneud e'n hynod anodd iddyn nhw fyw eu bywydau."
'Atgoffa eraill o brofiadau tebyg'
Mi gafodd y ffilm ei gadael mewn bocs yn atig Mark am ddegawdau, ond ddeufis yn ôl mi ddaeth o hyd i'r deunydd wrth chwilio am rhywbeth arall.
Dywedodd bod edrych ar y ffilm eto wedi bod yn brofiad anodd iawn ond roedd yn benderfynol o weld a fyddai'r deunydd yn gallu atgoffa eraill oedd wedi ymweld â'r ynys o brofiadau tebyg .
Mae Mark wrthi'n cymryd camau cyfreithiol yn erbyn yr abaty ond mae hefyd eisiau gweld ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei gynnal.
Y llynedd, derbyniodd chwe menyw iawndal yn dilyn cytundeb y tu allan i'r llys, ac fe ymddiheurodd yr abad pan ddaeth hi i'r amlwg nad oedd ei ragflaenydd wedi trosglwyddo cwynion am Kotik i'r heddlu yn 1990.
Yn y cyfamser, dywedodd yr Ymchwiliad Annibynnol i Achosion o Gam-drin Plant yn Rhywiol fod y cyhuddiadau cysylltiedig ag Ynys Bŷr yn berthnasol i'w hymchwiliadau parhaus i gamdriniaeth o fewn yr eglwys Gatholig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Awst 2018
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2017