Galw am symud corff y Tad Kotik o Ynys Bŷr
- Cyhoeddwyd
Mae dynes a gafodd ei cham-drin gan fynach o Ynys Bŷr wedi galw ar yr abaty i ddatgladdu ei gorff a'i symud o'r ynys.
Mae'r ddynes, sy'n dweud iddi gael ei cham-drin yn rhywiol gan y Tad Thaddeus Kotik yn yr 1970au a'r 80au, wedi dweud ei bod hi hefyd eisiau ymchwiliad i'r mater.
Dywedodd Charlotte (nid ei henw iawn) nad oedd hi wedi dweud wrth neb am y gamdriniaeth pan oedd hi'n blentyn am fod Kotik wedi ei bygwth hi.
Mae'r Abaty wedi ymddiheuro am beidio cyfeirio honiadau bod y mynach wedi cam-drin merched ifanc yn rhywiol ar yr ynys at yr awdurdodau ar y pryd.
Roedd Charlotte yn ymweld â'r ynys pan oedd hi'n blentyn am saith mlynedd tan iddi symud i Awstralia pan oedd hi'n 11 oed.
Fe gafodd hi iawndal gan yr abaty yn sgil cytundeb ddigwyddodd tu allan i'r llys.
Mae'n dweud na ddylai corff Kotik gael gorffwys ar dir sanctaidd yr ynys.
Angen symud y corff
"Dwi dal yn credu bod Ynys Bŷr yn un o'r llefydd mwya' prydferth yn y byd. Mae e mor drist bod yna abaty yno," meddai.
"Dwi'n teimlo yn drist dros yr ynys ei bod hi wedi bod yn harbwr diogel i'r creaduriaid afiach 'ma. Mae'n lle prydferth... ond dwi'n credu ei bod hi'n bryd symud y Tad Thaddeus o'r ynys.
"Dyna'r cam cyntaf. Dwi'n credu dylai'r abaty fod yn meddwl am hynny. Mae angen i'r abaty sylweddoli bod hwn yn fater difrifol iawn."
Dywedodd Charlotte na chododd hi ei llais tra'n blentyn ar ôl i Kotik ei bygwth hi.
"Fe ddywedodd Thaddeus wrtha i fod ein perthynas ni yn un arbennig iawn ac fe gredais i hynny.
"Fe ddywedodd e wrtha i na fyddai fy rhieni am gymryd fi nôl petaswn i yn dweud wrthyn nhw ac y byddai'n rhaid imi aros ar yr ynys gyda fo."
"Un o'r pethau arall roedd e'n ddweud oedd petawn i'n dweud, mi faswn i yn mynd i uffern, ac mi fyddai cythreuliaid yn pigo fy llygaid o 'mhen... galla i ddim dychmygu dweud hynny wrth ferch fach. "
Dywedodd fod effaith y gamdriniaeth wedi bod yn drychinebus.
"Mae'n llygru bob elfen o'ch bywyd chi... mae'n newid y ffordd rydych chi yn tyfu fyny.. a sut 'da chi yn gweld y byd."
Dywedodd Charlotte ei bod hi'n "daer" bod angen ymchwiliad.
"Mae hyn yn bwysig iawn, nad jyst fy stori i sydd yn cael ei hadrodd. Dwi ddim eisiau i bobl ddweud, 'Druan â ti, mae hynny mor drist, mae'n rhaid bod y profiadau 'na mor anodd.'
"Dwi eisiau i'r byd cyfan i ddweud bod hyn yn warthus.. mae'n epidemig... mae yna filoedd o bobl fel fi..."
Gwrthod ymateb
Mae Angela Burns, Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn cefnogi'r alwad am ymchwiliad ac yn dweud fod angen i'r Eglwys Gatholig wneud mwy.
"Dwi'n meddwl eu bod nhw'n claddu eu pennau yn y tywod. Maen nhw'n gwybod ei fod o'n ddifrifol ac maen nhw'n gobeithio os nawn nhw parhau i ddweud dim fydd dim effaith arnyn nhw."
"Dwi'n meddwl fod angen iddyn nhw fod yn glir iawn ynglŷn â'u cymhelliant. Ydyn nhw'n amddiffyn eu ffydd neu gorfforaeth yr eglwys?
"Os mai dim ond eisiau amddiffyn corfforaeth yr eglwys y maen nhw, yna fe ddylen nhw deimlo cywilydd."
Fe wrthododd Abaty Ynys Bŷr ymateb i'r pwyntiau newydd hyn, gan gyfeirio at eu datganiad gwreiddiol oedd yn ymddiheuro am beidio cyfeirio honiadau bod Kotik wedi cam-drin merched ifanc at yr awdurdodau ar y pryd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2017