'Pris i'w dalu' heb fwy o bwerau i'r Ombwdsmon
- Cyhoeddwyd
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio y bydd "pris i'w dalu" os na fydd Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo deddfwriaeth newydd i ehangu ei bwerau mewn da bryd.
Pe bai'r drefn newydd yn cael ei dderbyn, byddai hawl gan Nick Bennett ystyried cwynion am ofal iechyd preifat yn ogystal â dechrau ymchwiliadau ar ei liwt ei hun.
Ond mae pryderon na fydd Mesur Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) yn gweld golau dydd gan na fydd cytundeb ynglŷn â strwythur cyllido'r ddeddfwriaeth.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod angen "dealltwriaeth lawn" o'r costau sydd ynghlwm â'r newidiadau posib.
'Tair blynedd o waith'
Pleidleisiodd aelodau'r Cynulliad o blaid y mesur ar 21 Mawrth, ond mae angen i'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford ei gymeradwyo o fewn chwe mis.
Wrth siarad gyda BBC Cymru, dywedodd yr Ombwdsmon ei fod yn gofidio bod deufis wedi mynd heibio eisoes a bod gwyliau'r haf yn prysur agosáu.
Dywedodd Mr Bennett: "Mae 'na gymaint o dystiolaeth wedi cael ei gymryd gan y Cynulliad, a chymaint o waith 'di digwydd hefyd gan y pwyllgor a hefyd gan swyddogion.
"Mae hyn yn adlewyrchu gwaith dros ryw dair blynedd a dwi'n meddwl y bydd y pedair wythnos nesaf yn penderfynu'r dyfodol.
"Os 'da ni ddim yn cymryd y cyfle yma, fe fydd 'na bris i'w dalu, ac yn y pendraw defnyddwyr o wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru fydd yn talu'r pris yna."
Mae'r mesur yn cynnwys darpariaeth sy'n gosod pwerau newydd i'r Ombwdsmon fydd yn ei alluogi i:
dderbyn cwynion llafar;
ymchwilio ar ei liwt ei hun;
ymchwilio i driniaeth feddygol breifat pan mae'n cael ei gyfuno gyda thriniaeth ar y gwasanaeth iechyd;
ymgymryd â rôl mewn perthynas â safonau a gweithdrefnau o ran ymdrin â chwynion.
Dywedodd Simon Thomas AC - cadeirydd y pwyllgor cyllid, sy'n noddi'r mesur - bod trafodaethau wedi bod yn "bositif" hyd yma.
"Dwi ddim yn meddwl fod e'n ddymuniad gan neb i golli'r bil," meddai.
"Yr unig ffordd y bydd bil yn cael ei golli yw bod ni'n rhedeg mas o amser neu fod yna anghytuno neu ddiffyg dealltwriaeth ynglŷn â rhai o'r gwelliannau sydd angen gwneud i'r bil."
Pe bai'r mesur yn cael ei gymeradwyo, dyma fyddai'r tro cyntaf i bwyllgor lunio mesur llwyddiannus yn hanes y Cynulliad.
'Cydnabod pwysigrwydd y rôl'
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod pwysigrwydd rôl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru".
Fe wnaethon nhw ychwanegu eu bod yn "cydweithio gyda'r Pwyllgor Cyllid."
Pwysleisiodd y llefarydd bod y llywodraeth wedi bod yn "glir bod angen dealltwriaeth lawn ynglŷn â'r costau sydd ynghlwm â'r bil cyn trefnu strwythur cyllido'r ddeddfwriaeth".
Achos Peter Lewis
Aeth Peter Lewis i ysbyty preifat er mwyn cael llawdriniaeth ar ei ben-glin yn 2010.
Ar ôl gadael yr ysbyty fe waethygodd ei gyflwr, ac ar ôl mynd i ysbyty oedd yn cael ei redeg gan y gwasanaeth iechyd, bu farw ym mis Ionawr 2011.
Roedd ei weddw, Ruth eisiau cwyno i'r Ombwdsmon, ond doedd dim modd i Nick Bennett ymchwilio i gwynion gan gleifion ysbytai a chlinigau preifat oni bai bod y driniaeth honno wedi'i ariannu gan GIG.
Cafodd yr achos ei ddefnyddio i danlinellu'r angen am ddeddfwriaeth newydd er mwyn cryfhau hawliau cleifion sy'n derbyn triniaeth breifat yng Nghymru.
Dywedodd Mrs Lewis y byddai'n "siomedig" pe bai'r mesur yn methu, gan ei bod hi wedi gobeithio byddai achos ei gŵr yn gwneud gwahaniaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2016
- Cyhoeddwyd12 Awst 2016