Cyhoeddi enw beiciwr modur fu farw yn Sir Ddinbych

  • Cyhoeddwyd
A543Ffynhonnell y llun, Google

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A543 ger Bylchau, Sir Ddinbych ddydd Sadwrn.

Roedd Thomas Patrick Reddock yn 70 oed ac yn dod o ardal Lerpwl.

Yn ôl ei deulu roedd Mr Reddock yn "dad cariadus, yn frawd, taid ac yn ffrind da i lawer".

"Ni all eiriau ddisgrifio faint o ergyd yw'r newyddion, mae darn mawr o'n teulu ni nawr wedi mynd, a byddwn yn ei golli am byth," meddai'r teulu mewn datganiad.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i safle'r gwrthdrawiad - rhwng beic modur Honda CBR 600 a Peugeot 206 arian - am 15:45 ar 18 Awst.

Cadarnhaodd yr heddlu fod Mr Reddock, oedd yn teithio ar feic modur, wedi marw yn y fan a'r lle.

Mae'r heddlu yn dal i apelio ar unrhyw a welodd y gwrthdrawiad neu oedd yn teithio ar hyd yr A543 cyn y digwyddiad i gysylltu â nhw drwy alw 101.