Artist yn arddangos gwaith gwydr yn Fenis
- Cyhoeddwyd
Bydd gwaith artist gwydr o Gwytherin, ger Abergele, yn cael ei arddangos mewn digwyddiad arbennig yn Fenis ym mis Medi.
Mae arddangosfa Rhian Hâf, Cipio Eiliadau / Capturing Moments, yn rhan o Wythnos Wydr Fenis lle mae artistiaid gwydr ar draws y byd yn cael arddangos eu gwaith.
Cafodd Cymru Fyw sgwrs â Rhian cyn iddi adael am Yr Eidal, gyda'i chês yn llawn darnau o wydr...
Beth yn union yw Cipio Eiliadau?
Gwaith gosod ydy o efo gwydr ac LEDs. Mae pob darn o wydr yn cael ei oleuo gan LEDs ar onglau gwahanol, sy'n creu cysgodion ac adlewyrchiadau i greu siapiau gwahanol.
Yn 2011, ces i fynd i ŵyl gelf Bienniale Fenis, ac o'n i'n rhan o brosiect lle roeddwn i hefyd yn cael amser i wneud gwaith ymchwil.
Nes i dynnu llawer o luniau a gwneud paentiadau o sut oedd golau yn llifo ar hyd y strydoedd yn Fenis, a dyna'r ysbrydolaeth tu ôl i'r gwaith yma.
Felly mae'n braf iawn cael dod â fo yn ôl i'r ddinas, i gloi'r cylch mewn ffordd.
Sut ddaeth y cyfle i arddangos dy waith yn Fenis?
Ges i'r gwahoddiad i'w arddangos o eleni mewn partneriaeth efo Venice Arts Factory, sy'n trefnu nifer o ddigwyddiadau i gydfynd â'r Biennale ar draws y ddinas.
Roedden nhw'n awyddus i weithio efo fi i roi hwn ymlaen, fel rhan o wythnos arbennig yn arddangos gwaith celf o wydr.
Mae'r lleoliad, Campo San Stefano, yn anhygoel - mae gen i lawr cyfan i ddangos y gwydr a'r ffotograffau a'r paentiadau sy'n cydfynd efo fo.
Dwi wedi cael arian gan sefydliad Celfyddydau Rhyngwladol Cymru i fynd â'r gwaith drosodd - fasai hi'n amhosib gwneud heb yr arian yna.
Sut wyt ti'n mynd â darn o waith celf mor fregus dramor?!
Mae'r logistics wedi bod mor anodd, a'r gwaith pacio braidd yn ridiculous! Dwi wedi teithio dipyn efo'r darn yma, a galli di ei anfon i unrhyw le sydd efo ffordd, ond, wrth gwrs, mae Fenis ar ynys...!
Mae courier wedi mynd â'r paneli a'r bocsus sy'n dal y gwydr ers wythnos, dwi'n mynd â'r gwydr ei hun ar awyren Ddydd Sul, ac mae'r paentiadau a'r lluniau yn cyrraedd Ddydd Mawrth. Croesi bysedd fydd popeth yn cyrraedd yn iawn!
Wedyn bydd angen gosod popeth yn ei le... Neith hi gymryd rhyw ddiwrnod i agor yr holl focsus dwi'n meddwl!
Ond bellach, mae gen i system i osod popeth at ei gilydd, felly unwaith i ni benderfynu lle fydd popeth yn mynd, gobeithio fydd hi ddim rhy gymhleth!
Beth sydd gan y dyfodol i'w gynnig?
Yn ystod yr wythnos, fydda i'n siarad â lot o bobl, ac yn gobeithio creu cysylltiadau. Mae'r Bienniale Pensaernïol hefyd ymlaen yno, a dyna faes yr hoffwn i weithio mwy ynddo, felly gobeithio fydd dipyn o'r gynulleidfa yna yn dod hefyd.
Mae rhan o'r gwaith ar hyn o bryd yn Amgueddfa Genedlaethol yr Alban yng Nghaeredin, ac yna mae'r holl waith yn mynd i'r National Centre of Craft and Design yn Sleaford yn syth o Fenis, felly dydi'r darn ddim wedi gorffen teithio eto.
Mae pethau yn gallu digwydd mor gyflym yn y busnes yma - nes i ond cael gwybod am hyn ddiwedd fis Mai - felly pwy a ŵyr pa gyfleoedd ddaw o hyn.