Gobaith o godi tâl pêl-droedwyr benywaidd wedi gêm allweddol
- Cyhoeddwyd
Ar drothwy gêm dyngedfennol i dîm pêl-droed merched Cymru, mae aelod blaenllaw o'r garfan yn dweud bod angen codi cyflogau i bêl-droedwyr benywaidd fel bod mwy yn gallu chwarae'r gêm yn broffesiynol yn y dyfodol.
Dywed yr asgellwr Natasha Harding nad yw'n realistig i ddisgwyl tâl cyfartal â dynion, ond bod angen i'r tâl i ferched fod yn "llawer gwell".
Fe wnaeth arolwg diweddar awgrymu bod 88% o'r chwaraewyr ym mhrif gynghrair y merched - y Women's Super League(WSL) - yn ennill llai na £18,000 y flwyddyn.
Mae disgwyl y dorf fwyaf erioed ar gyfer un o gemau cartref y tîm nos Wener pan fydd Cymru'n wynebu Lloegr nos Wener yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2019.
Bydd 5,000 o gefnogwyr yn Rodney Parade, Casnewydd ac fe gafodd pob tocyn ei werthu o fewn 24 awr.
Byddai buddugoliaeth yn sicrhau lle i Gymru yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn Ffrainc y flwyddyn nesaf - y tro cyntaf i dîm merched Cymru gyrraedd un o brif gystadlaethau'r gamp.
Gobaith am newid
"Rydyn ni wedi creu hanes cyn gwneud dim," meddai Harding, 29, sydd wedi chwarae yn y WSL i Lerpwl a'i chlwb presennol, Reading.
Tra bod hithau'n chwaraewr proffesiynol llawn amser, mae rhai chwaraewyr benywaidd yn gorfod gwneud swyddi eraill a hyfforddi ar yr un pryd.
Mae Helen Ward, y chwaraewr sydd wedi sgorio'r nifer fwyaf o goliau dros Gymru, yn fam i ddau blentyn ac yn gweithio fel sylwebydd pêl-droed tra'n chwarae i Ferched Watford.
Gobaith Harding yw y bydd yr holl sylw i gêm Cymru nos Wener yn arwain at newid gan alluogi mwy o ferched ifanc i fod yn bêl-droedwyr proffesiynol.
"Dydw i ddim am eistedd yn fan hyn a dweud y bydden nhw'n cael yr un [cyflog] â dynion achos fydden nhw ddim, bydde hynny'n afrealistig," dywedodd.
"Ond gobeithio bydd yna fwy o gyfleoedd i bêl-droedwyr benywaidd i fod yn broffesiynol, jest iddyn nhw gael e fel job."
O fewn carfan bresennol Cymru, mae 12 o'r 20 aelod yn chwaraewyr llawn amser, mae chwech yn fyfyrwyr ac mae un â swydd llawn amser yn y sector recriwtio.
Mae Kayleigh Green - ymosodwr Brighton and Hove Albion a sgoriodd ddwy gôl yn y gêm ragbrofol yn erbyn Rwsia - hefyd yn blymer â chymhwyster.
Faint mae pêl-droedwyr benywaidd yn ei ennill?
Mewn adroddiad fis Rhagfyr y llynedd, dywedodd FIFpro - yr undeb sy'n cynrychioli dros 60,000 o chwaraewyr ar draws y byd bod:
58% wedi ystyried rhoi'r gorau ar chwarae am resymau ariannol;
30% yn cyfuno pêl-droed gyda swydd arall;
11% heb gytundeb ar bapur gyda'u clybiau;
88% o'r chwaraewyr ym mhrif gynghrair Lloegr yn ennill llai na £18,000 y flwyddyn;
26% o chwaraewyr y WSL ddim yn cael holl gostau eu treuliau yn ôl gan eu clybiau.
'Peth ffordd eto i fynd'
Mae Rachel Rowe, 25, yn bêl-droediwr llawn amser ers bron i dair blynedd ac yn chwarae i Gymru a Reading.
Ond ar un cyfnod bu'n rhaid cyfuno chwarae gemau a sesiynau hyfforddi gyda'i gwaith hefo'r gwasanaeth carchar a phrentisiaeth gweinyddiaeth busnes gyda Llywodraeth Cymru.
"Ro'n i'n gweithio yn Abertawe ac yn teithio dwy awr a hanner i hyfforddi ddwywaith yr wythnos ac yna ar ddiwrnod gemau," dywedodd.
"Bob diwrnod fyddwn yn cyrraedd gartref am 01:00 y bore ac yna'n mynd yn ôl i'r gwaith i wneud shifft naw awr, ond roedd o'n werth [yr ymdrech].
"Erbyn diwedd y tymor ro'n i wedi ymladd ond... fe enillon ni'r gynghrair, fe gawson ni ddyrchafiad a ges i gynnig cytundeb llawn amser.
"Pam na fedar merched bach feddwl y gallen nhw fod yn bêl-droediwr?"
Dywedodd Rowe bod "peth ffordd eto i fynd" ond bod mwy o ffyrdd erbyn hyn i ferched allu chwarae pêl-droed yn llawn amser.
Bydd y gêm i'w gweld yn fyw ar Cymru Fyw nos Wener 31 Awst - y gic gyntaf am 19:45.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Awst 2018